Plant y fflam
- Cyhoeddwyd
Ddwy flynedd wedi marwolaeth Derec Williams, un o sylfaenwyr Cwmni Theatr Maldwyn, mae'r cof amdano yn fyw iawn i'w blant wrth iddyn nhw ymuno 芒 thaith ddiweddaraf y cwmni.
Bydd cyngherddau Cadw'r Fflam yn Fyw yn cynnwys rhai o uchafbwyntiau sioeau cerdd y Cwmni o'r canolbarth dros gyfnod o 36 mlynedd.
Fe fyddan nhw'n cloi gyda ch芒n o'r un enw sydd wedi ei hysgrifennu er cof am Derec Williams gan ei gyd-sylfaenwyr yn y cwmni, Penri Roberts a Linda Gittings.
"Fyddan ni'n meddwl amdano fo nos Sadwrn," meddai Meilir Rhys Williams, yr ail o dri phlentyn Derec a'i weddw, Ann, wrth sgwrsio gyda Cymru Fyw am ddylanwad ei dad a'r cwmni theatr ar ei blentyndod.
"Ym mhob cyngerdd neu sioe oedd dad wastad yng nghefn y theatr yn chwifio ei freichiau ac yn dawnsio er mwyn cael pawb ar y llwyfan i godi eu pennau, i wenu ac i ganu nerth eu calonnau.
"Dwi'n eitha si诺r byddwn ni'n ei weld o yng nghefn y theatr pan fyddwn ni'n gwneud y cyngherddau yma."
Mae'r cyngerdd cyntaf yn y Drenewydd nos Sadwrn, 8 Ebrill, a'r olaf yn y Bala ar 20 Mai, 2017.
Bydd Meilir yn canu yn y c么r gyda'i fam a'i chwaer, Branwen, tra bydd y brawd ieuengaf, Osian, yn chwarae'r drymiau yn y band. Mae o hefyd wedi trefnu'r gerddorfa ar y CD o'r sioe.
Wedi eu magu yn s诺n ymarferion y cwmni, lle cyfarfu eu rhieni, does dim syndod bod Branwen, Meilir ac Osian Williams i gyd wedi gwneud eu marc ym maes cerddoriaeth a pherfformio.
Mae Branwen yn gweithio i'r Urdd ac yn aelod o fandiau Siddi a Cowbois Rhos Botwnnog; Meilir yn ganwr ac actor sy'n chwarae rhan Rhys y mecanic yn Rownd a Rownd ac Osian yn gerddor proffesiynol a phrif leisydd Candelas ac mewn bandiau eraill, gan gynnwys Siddi gyda Branwen.
Breuddwyd roc a r么l
Athro mathemateg oedd Derec Williams wrth ei alwedigaeth.
Heb unrhyw brofiad blaenorol - heblaw am ei gariad at roc a r么l a Jimmy Hendrix - fe aeth y dyn ifanc o Amlwch ati gyda Penri a Linda i greu cwmni theatr a chyfansoddi sioeau cerdd llwyddiannus a phoblogaidd sy'n dal i gael eu perfformio heddiw.
Yn ogystal 芒 chaneuon cofiadwy fe wnaethon nhw greu cymuned newydd sbon a chyfleoedd perfformio i bobl Maldwyn, Meirionnydd a Cheredigion.
Dim ofn mentro
"Doedd gan Linda, Penri na dad unrhyw brofiad o lwyfannu sioeu na sgwennu sioeau," meddai Meilir.
"Mi wnaeth y tri jyst ddod at ei gilydd ac yn hytrach na disgwyl i rywun ddeud wrthyn nhw be i'w wneud, penderfynu ei dr茂o fo eu hunain a gweld be allen nhw ei wneud.
"Roedd dad wastad yn deud bod o ddim yn si诺r os mai gwirion 'ta dewr oedden nhw! Ond yn amlwg mi wnaeth o ddwyn ffrwyth."
Yn eironig, doedd ganddo ddim dawn canu meddai Meilir: "Mae mam yn fwy cerddorol o ran ei gallu na dad achos roedd dad yn tone deaf - doedd o ddim y gorau am ganu!
"Ond roedd o'n medru cyfansoddi, dyna sy'n rhyfedd. Roedd o'n fwy dylanwadol ar yr ochr roc, fo wnaeth ddysgu Osian i chwarae'r dryms a'r git芒r, mam oedd yn rhoi gwersi piano a chanu."
"Ond roedd gan dad ryw agwedd get up and go - os oedd o isio tr茂o rwbeth fase fo wastad yn mynd ati a gwneud - doedd ganddo ddim ofn tr茂o o gwbl."
"Be wnaeth dad ddysgu i ni oedd duwcs, ti'n trio," meddai.
"Hwyrach y gwnei di fethu ond os na ti'n trio, fyddi di ddim yn gwybod os elli di lwyddo.
"Felly pam lai mynd amdani yn hytrach na disgwyl i rywun arall wneud rhywbeth. Mynd ati a'i wneud o dy hun ac os dio'n dwyn ffrwyth, yna gr锚t, os dio ddim, tria rywbeth arall."
Cwmni a sioe gerdd newydd
A diolch i'r agwedd yma mae'r plant bach oedd yn arfer chwarae yn theatrau Cymru tra roedd eu rhieni yn ymarfer a pherfformio yn camu i esgidiau eu tad drwy fynd ati i sefydlu eu cwmni theatr eu hunain i lwyfannu sioe gerdd newydd sbon.
Maen nhw wrthi'n datblygu'r gwaith a enillodd Dlws y Cerddor i Osian yn Eisteddfod Genedlaethol 2015.
Mae gan Osian radd Meistr mewn cyfansoddi a chafodd ei waith, Gwion Bach, ei ddisgrifio gan y beirniaid fel un "hynod gyffrous".
"Sioe gerdd fydd Gwion Bach," meddai Meilir am y gwaith sydd wedi ei seilio ar stori Taliesin o'r Mabinogi.
"Ryden ni'n gobeithio gwneud hon ar raddfa broffesiynol, felly fydd o'n wahanol i raddau.
"Gan bod Osian 'di sgrifennu caneuon ffantastig ar gyfer y sioe yn barod, roedden ni'n meddwl pam lai ceisio sgwennu sioe gerdd fyse'n gallu sefyll ar lwyfan byd eang."
Y gobaith yw ei pherfformio yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn y dyfodol.
'Cymryd yr awenau'
Nid dyma'r tro cyntaf i'r tri gydweithio i sgrifennu sioe.
Fe dorron nhw eu dannedd ar y grefft wrth ysgrifennu a chynhyrchu'r sioe ieuenctid yn Eisteddfod yr Urdd yn y Bala yn 2014.
Ond ar ganol y rhediad o berfformiadau yn y Bala y daeth y newyddion trist am farwolaeth eu tad.
"Roedd amseriad y peth yn hollol rhyfedd - ein bod ni'n tri wedi dod at ein gilydd am y tro cyntaf ac wedi cymryd yr awenau oddi wrth dad mewn ffordd, a bod yr Eisteddfod yn ein cynefin ni ac wrth gwrs.
"Mi fu farw ar y dydd Mawrth, ynghanol y 'Steddfod."
Roedd wedi bod yn yr ymarferion meddai Meilir ac wrth ei fodd yn gwylio pobl ifanc yn dod at ei gilydd "a gweld cenhedlaeth newydd yn mynd ati".
Mae'r teulu yn gweld cyngherddau Cadw'r Fflam fel rhywbeth 'therapiwtig' iddyn nhw: "Pan ti'n gweld 150 o bobl yn canu gwaith mae dad, Penri a Linda wedi ei wneud, mae'n cliche ein bod ni'n 'cadw'r fflam yn fyw' mewn ffordd, ond mae wedi bod yn donic inni ddod n么l at ein gilydd a chanu'r hen ganeuon," meddai Meilir.
"Mae pawb wedi bod yn hel atgofion a rhannu straeon, mae wedi bod yn neis cael bod n么l efo'r cwmni."
Bydd Radio Cymru yn darlledu'r cyngerdd o Pontio ym Mangor, sy'n digwydd ar 30 Ebrill, yn nes ymlaen yn y flwyddyn.
Yn y cyfamser bydd Osian a Branwen, fel aelodau'r band Siddi, yn cael cyfle i roi teyrnged i'w tad yn y rhaglen Emyn Roc a R么l ar Radio Cymru nos Wener wrth iddyn nhw addasu emyn gafodd ei chanu yn ei angladd, Rho im yr hedd.