大象传媒

Teyrngedau i'r cerddor ac actor Dafydd Dafis

  • Cyhoeddwyd
Dafydd DafisFfynhonnell y llun, S4C

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i'r cerddor a'r actor Dafydd Dafis a gafodd ei ganfod yn farw nos Lun.

Cafodd ei ddisgrifio fel dyn "hynod o dalentog" gan y gantores Caryl Parry Jones, oedd wedi gweithio gydag ef yn y gorffennol.

"Doeddech chi ddim yn clywed lleisiau fel 'na yn aml, roedd ganddo ffordd o drosglwyddo c芒n oedd mor ddiymdrech a naturiol," meddai.

"Roedd o hefyd yn actor abennig o dda, yn chef arbennig o dda, a boi hynod o garedig a hael."

C芒n i Gymru

Cafodd Dafydd Dafis ei fagu yn Rhosllannerchrugog ger Wrecsam, a bu'n fyfyriwr yng Ngholeg Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd.

Bu'n aelod o sawl band dros y blynyddoedd, gan gynnwys Steve Eaves a'i Driawd, a bu hefyd yn perfformio a rhyddhau cynnyrch ar ei liwt ei hun.

Roedd yn adnabyddus fel chwaraewr sacsoffon, a chanddo hoffter o gerddoriaeth jazz.

Bu'n gystadleuydd sawl gwaith ar C芒n i Gymru, a daeth y g芒n 'T欧 Coz' gafodd ei pherfformio yn 1987 yn un o'i ganeuon mwyaf adnabyddus.

Fel actor fe ymddangosodd mewn sawl drama theatr a chyfresi teledu poblogaidd, gan gynnwys Rownd a Rownd, Tipyn o Stad a Pen Talar.

'Colled fawr'

Mewn ymateb i'r newyddion am ei farwolaeth dywedodd Prif Weithredwr S4C, Ian Jones: "Roedd ganddo amrywiaeth enfawr o ddoniau a chyfrannodd yn fawr at lu o gyfresi a rhaglenni ar S4C o ddyddiau cynharaf y sianel ymlaen.

"Fel actor, byddwn yn ei gofio yn chwarae cymeriadau mewn cynyrchiadau fel Yr Heliwr/A Mind to Kill, Coleg, Pen Talar a Paradwys Ffwl gyda medr ac angerdd.

"Dangosodd yr un angerdd wrth berfformio fel canwr soul a phop a cherddor jazz, pop a roc a pherfformio mewn sawl cyfres gerddoriaeth ac adloniant ar S4C a chyngherddau amlwg.

"Bydd colled fawr ar ei 么l a hoffem anfon ein cydymdeimlad dyfnaf i'w deulu a'i ffrindiau."

'Diwrnod trist'

Mewn neges ar ei dudalen Facebook dywedodd yr actor Ieuan Rhys: "Trist iawn clywed am farwolaeth Dafydd Dafis. Actor a chanwr arbennig. Boi ffein fyd."

Ychwanegodd yr actores Sharon Morgan mewn neges debyg: "Trist iawn clywed am farwolaeth yr actor Dafydd Dafis. Coffa da amdano. Actor Gwych a cerddor a canwr dawnus dros ben."

Dywedodd Caryl Parry Jones fod theatr ac actio yn hynod bwysig i Dafydd Dafis, ond ei fod yn "gerddor yn fwy na dim byd arall".

"Roedd o wastad yn hynod o hael ac yn falch o weld ei ffrindiau. Mae'n ddiwrnod ofnadwy o drist," meddai.

"Mae'n mynd i fod yn golled, yn enwedig i fyd cerddoriaeth yng Nghymru."