大象传媒

Bardd Cymreig arall y rhyfel

  • Cyhoeddwyd
Y Bardd, Edward Thomas
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Edward Thomas

Mae eleni yn gan mlynedd ers marwolaeth Hedd Wyn, ond faint ohonoch chi sy'n gwybod am hanes bardd arall o dras Cymreig fu farw yn ystod brwydro ffyrnig y Rhyfel Byd Cyntaf?

Cafodd Edward Thomas ei ladd ym mrwydr Arras ar 9 Ebrill 1917. Er mai yn Lambeth yn Llundain y cafodd ei eni, Cymry oedd y rhan fwyaf o'i deulu ac roedd ei dad yn siarad Cymraeg.

Mae cyfraniadau llenyddol y ddau fardd yn cael eu cofio mewn arddangosfa newydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar hyn o bryd.

Fe greodd Cymru a'i diwylliant argraff fawr ar Edward Thomas pan yn ifanc yn 么l Dr Andrew Webb, Pennaeth Ysgol Lenyddiaeth Saesneg Prifysgol Bangor:

"Treuliodd Edward Thomas gryn dipyn o amser yng Nghymru gyda theulu ei dad ym Mhontarddulais, ac yn Rhydaman, gan ddod dan ddylanwad y bardd a'r ysgolhaig, Gwili (John Jenkins), a'i cyflwynodd i'r traddodiad barddol Cymreig, i'r mesurau caeth, i'r gynghanedd ac i chwedlau Cymru a'r Mabinogi.

"Roedd OM Edwards yn ddylanwad mawr arno yn Rhydychen hefyd ac roedd ef 芒'i fryd ar sefydlu 'llenyddiaeth a oedd yn Saesneg o ran iaith ond yn Gymreig o ran ysbryd'. Aeth Edward Thomas i'r afael 芒'r her hon, gan gyhoeddi pedair cyfrol Gymreig o ran natur yn y blynyddoedd ar 么l iddo adael y coleg gan gyflwyno'r gyfrol gyntaf, Horae solitariae, i OM Edwards.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd OM Edwards yn ddylanwad mawr ar Edward Thomas

"Hyd yma mae Edward Thomas wedi ei weld fel bardd Seisnig. Bellach - ganrif ar 么l ei farw - mae'n bryd i ni ei hawlio'n 么l fel bardd Cymreig."

Yr awen yn cydio

Yn ystod ei gyfnod fel beirniad llenyddol y Daily Chronicle yn Llundain ar ddechrau'r ugeinfed ganrif, daeth Thomas ar draws y bardd-drempyn Cymreig, WH Davies gan ddylanwadu'n fawr arno o ran meithrin ei waith, ei yrfa a'i boblogrwydd ef.

Daeth yn gyfaill agos hefyd 芒'r bardd Americanaidd, Robert Frost a mae 'na ddyfalu mai Thomas oedd ysbrydoliaeth Frost ar gyfer un o'i gerddi enwocaf The Road Not Taken. Bu Frost yn ddylanwadol ar Thomas hefyd gan ei annog i ddechrau barddoni gan nad oedd wedi cyfansoddi'r un gerdd tan diwedd 1914, a chyn hynny roedd tipyn yn fwy adnabyddus fel awdur a beirniad llenyddol.

"Mae dylanwad Cymru yn drwm ar gerddi Edward Thomas" yn 么l Andrew Webb.

"Mae un o'i gerddi, Head and Bottle, mewn cynghanedd, ac mae cyffyrddiadau cynganeddol i'w gweld mewn nifer o rai eraill - rhywbeth nad yw beirniaid llenyddol o'r tu hwnt i'r ffin wedi ei weld na'i gydnabod bob tro."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Milwyr ar eu ffordd i'r frwydr yn Arras, 1917

I faes y gad

Fodd bynnag, dylanwadodd Robert Frost mewn ffordd arall ar Edward Thomas. Dewisodd Thomas ddehongli The Road Not Taken fel beirniadaeth ohono am beidio 芒 ymuno 芒'r fyddin - rhywbeth nad oedd Robert Frost wedi ei fwriadu mae'n debyg.

Daeth Thomas i'r casgliad felly yng Ngorffennaf 1915 y byddai'n rhaid iddo ymuno yn y brwydro, er ei fod erbyn hynny yn ei dridegau hwyr ac yn dad i dri o blant.

Ychydig fisoedd yn unig ar 么l ei anfon i'r ffosydd, cafodd ei ladd ar 么l iddo gael ei saethu yn ei frest ym mrwydr Arras yng ngogledd Ffrainc.

Roedd marwolaeth Edward Thomas yn ergyd drom i WH Davies. Lluniodd farwnad coffa iddo, Killed In Action (Edward Thomas), yn y casgliad o gerddi Raptures a gyhoeddodd ym 1918.

Cyfansoddodd Edward Thomas y cyfan o'i farddoniaeth yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ond prin iawn yw ei gyfeiriadau uniongyrchol at y rhyfel yn ei gerddi.

Mae e'n cael ei goff谩u gyda beirdd eraill y Rhyfel Mawr yn Poet's Corner yn Abaty Westminster.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae enw Edward Thomas ar y garreg sy'n coff谩u beirdd y Rhyfel Mawr yn Abaty Westminster

Mae'r arddangosfa , sy'n dathlu awen, gwaith ac etifeddiaeth Hedd Wyn ac Edward Thomas, yn parhau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, tan 2 Medi.