Gweinidog y Gymraeg yn annog pobl i groesawu'r Wyddeleg

Mae Gweinidog y Gymraeg wedi annog unoliaethwyr yng Ngogledd Iwerddon i fod yn fwy croesawgar o'r iaith Wyddeleg.

Dywedodd Alun Davies na fyddai hynny'n niweidio'u hunaniaeth a'u gwleidyddiaeth, a'i fod yntau'n "unoliaethwr sy'n siarad Cymraeg".

Mae anghytuno dros ddeddf ar yr iaith Wyddeleg wedi bod yn un o'r prif rwystrau yn y trafodaethau i geisio creu llywodraeth yn Stormont.

Ond dywedodd Mr Davies: "Bydden i'n dweud croesawch yr iaith, croesawch y diwylliant, croesawch e fel rhan o'ch hunaniaeth. Pan ni'n tynnu gwleidyddiaeth mas o'r iaith, mae pawb wedi elwa."

'Prydeiniwr a Chymro'

Ychwanegodd yr AC Llafur mewn sylwadau wrth 大象传媒 NI: "Dwi'n unoliaethwr ac yn siarad Cymraeg. Mae'n rhan o fy mhrofiad diwylliannol ac yn rhan o fy nyfodol, fy nyfodol Prydeinig.

"Does dim rhaid i mi ddewis rhwng bod yn Brydeinig neu'n Gymreig, fe allai gael y ddau."

Ond er bod rhai ymgyrchwyr yn galw am sefydlu swydd comisiynydd i'r Wyddeleg, tebyg i'r hyn sydd ar gael yng Nghymru, mae academydd o Ogledd Iwerddon sydd yn dysgu yng Nghaerdydd yn rhybuddio nad yw'n rhywbeth y dylid rhuthro i'w sefydlu.

"Mae manteision penodol yn gallu dod ohoni, ond mae'n rhaid i'r swydd gael ei chreu gyda thasgau penodol mewn golwg," meddai'r Athro Diarmait Mac Giolla Chriost.

Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, wrth 大象传媒 NI y dylai unrhyw drafodaethau am greu cymdeithas ddwyieithog fod wedi'u seilio ar onestrwydd a pharch i'r naill a'r llall.