大象传媒

Dan Puw a Deri Tomos i dderbyn dwy o wobrau'r Brifwyl

  • Cyhoeddwyd
Dan PuwFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Dan Puw yn hyfforddwr a beirniad cerdd dant ac alawon gwerin

Mae enillwyr dau o brif wobrau'r Eisteddfod Genedlaethol wedi eu cyhoeddi.

Dan Puw o'r Parc ger Y Bala yw enillydd Medal Goffa Syr TH Parry-Williams am ei gyfraniad gwirioneddol i'w ardal leol.

Mae'r Fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg wedi ei chyflwyno i'r Athro Deri Tomos o Lanllechid yng Ngwynedd am ei gyfraniad hyd-oes i wyddoniaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd y ddau yn derbyn eu gwobrau yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys M么n rhwng 4-12 Awst.

Mwy am yr Eisteddfod Genedlaethol:

Medal Goffa Syr TH Parry-Williams

Gwaith Dan Puw yw ffermio ond mae'n cael ei wobr am ei waith fel hyfforddwr a beirniad cerdd dant ac alawon gwerin.

Mae wedi bod yn hyfforddi cantorion ei ardal ar gyfer eisteddfodau a'r 糯yl Gerdd Dant am flynyddoedd, gan gynnwys 15 mlynedd yn arwain Aelwyd yr Urdd yn y pentref.

Yn aelod o'r Gymdeithas Gerdd Dant ers ei 20au, mae bellach yn aelod annrhydeddus ac yn parhau i rannu'i arbenigedd.

Bydd yn derbyn ei fedal ar lwyfan y pafiliwn yn ystod yr Eisteddfod.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd yr Athro Deri Tomos yn derbyn ei wobr mewn seremoni ar faes yr Eisteddfod

Y Fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg

Yn wreiddiol o Gaerdydd, bu'r Athro Deri Tomos yn ddarlithydd ym Mangor wedi cyfnodau'n astudio yn y ddinas ac yng Nghaergrawnt.

Mae'n adnabyddus am ei gyfraniadau i gynlluniau gradd ym meysydd Biocemeg, Bioleg a Biofeddygaeth, ac roedd yn gyfrifol am ddatblygu rhannau helaeth o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg y graddau.

Bu hefyd yn treulio cyfnodau'n ymchwilio dramor, yn Adelaide, Utah a Heidelberg, yn ogystal 芒 phoblogeiddio Gwyddoniaeth i gynulleidfa Gymraeg.

Mae'n wyneb a llais adnabyddus ar y cyfryngau, ac wedi ysgrifennu erthyglau, colofnau ac erthyglau i esbonio ar gyfer Wicipedia.

Bydd yn derbyn ei wobr mewn seremoni ar y maes.