大象传媒

Dronau a thechnoleg 'yn hollbwysig i heddlu'r dyfodol'

  • Cyhoeddwyd
Jeff FarrarFfynhonnell y llun, Heddlu Gwent

Bydd dyfeisiau clyfar a dronau yn hollbwysig i heddluoedd Cymru yn y dyfodol wrth i gyllidebau a swyddi gael eu torri, yn 么l prif gwnstabl Heddlu Gwent.

Dywedodd Jeff Farrar ei fod yn rhagweld y bydd pob cerbyd heddlu yn cario dr么n mewn blynyddoedd i ddod, ac y bydd cyfrifiaduron yn gwneud swyddi "sydd ddim yn ymwneud ag emosiwn".

Mae Heddlu Gwent wedi wynebu toriadau o 拢50m ac mae'n dal angen arbed 拢9m.

Er i swyddi 300 o swyddogion gael eu torri ers 2011, dywedodd Mr Farrar bod y llu yn bwriadu recriwtio eto nawr.

Dulliau newydd

Mewn ymgais i weithio mewn ffyrdd gwahanol i arbed arian, dywedodd Mr Farrar y byddai'r dechnoleg ddiweddaraf yn hanfodol, fel mewn achos lle cafodd ger Casnewydd.

"Ni fyddwn ni wedi gallu gwneud hynny ar droed a gyda dulliau arferol," meddai.

"Fe wnaethon ni roi dr么n i fyny, oedd reit uwchben y safle ac yn fy swyddfa roedd lluniau manwl o'r safle. Bydden ni erioed wedi gallu gwneud hynny [heb y dr么n].

"Dwi'n meddwl mewn blynyddoedd i ddod... y bydd dr么n yng nghefn pob cerbyd heddlu i'w defnyddio drwy'r amser."

Heddlu Gwent yw'r ail lu ar 么l Heddlu De Cymru i gael caniat芒d i ddefnyddio dronau i daclo troseddu.

Maen nhw hefyd yn defnyddio camer芒u ar eu cyrff i recordio digwyddiadau.

Dywedodd bod gwaith ditectifs hefyd yn elwa, a bod gwaith oedd yn arfer cymryd dyddiau i'w gwblhau bellach yn gallu cael ei wneud yn gynt arlein.

"Y gwir yw bod llawer o'r gwaith rydyn ni'n ei wneud, os nad yw'n cynnwys emosiwn, yna mae'n debygol ei fod yn bosib ei wneud gyda chyfrifiadur," meddai.

Er hynny, dywedodd na fydd peiriannau yn cymryd drosodd gan swyddogion yn gyfan gwbl.

"Mae'r cyhoedd yn dal i hoffi gweld plismon, gan ei fod yn tawelu'r meddwl."