大象传媒

Unigrwydd: Cannoedd o blant yn ffonio llinell gyswllt

  • Cyhoeddwyd
plentyn unigFfynhonnell y llun, Science Photo Library

Mae cannoedd o blant wedi bod yn cysylltu 芒 llinell gyswllt oherwydd eu bod nhw'n unig neu'n teimlo pwysau, yn 么l elusen.

Dywedodd Childline bod eu cwnselwyr wedi derbyn 150 o alwadau gan blant o Gymru yn 2016/17 - gyda'r ffigwr go iawn yn debygol o fod yn llawer uwch gan fod rhai heb ddweud o ble roedden nhw'n ffonio.

Cafodd dros 4,000 o blant a phobl ifanc yn y DU y sesiynau cwnsela gan wasanaeth yr NSPCC yn y flwyddyn ddiwethaf - gyda merched bum gwaith yn fwy tebygol o gysylltu.

Dywedodd Childline mai dyma'r flwyddyn gyntaf iddyn nhw gofnodi unigrwydd fel problem, gyda phlant nawr yn trafod problem sydd yn cael ei gysylltu fwy 芒 chenedlaethau h欧n.

'Methu siarad'

Roedd llawer o blant a phobl ifanc yn cysylltu i ddweud eu bod nhw'n teimlo'n anweledig, fod pobl ddim yn deall eu teimladau, neu fod ffactorau fel y cyfryngau cymdeithasol yn gwneud iddyn nhw deimlo'n hyll neu amhoblogaidd.

Dywedodd eraill eu bod yn ei chael hi'n anodd addasu i amgylchedd newydd wrth symud t欧 neu ysgol, neu golli rhywun agos iddyn nhw wedi marwolaeth neu ddiwedd perthynas.

O ganlyniad i hynny roedden nhw'n treulio mwy o amser yn eu hystafell wely neu ar-lein, oedd yn gwneud pethau'n waeth, ac roedd rhai hyd yn oed yn niweidio'u hunain neu'n ystyried lladd eu hunain.

Ond dywedodd llawer o bobl ifanc wrth y cwnselwyr nad oedden nhw eisiau siarad 芒'u rhieni am eu bod yn poeni beth fydden nhw'n ei feddwl ohonyn nhw.

Ffynhonnell y llun, DGLimages
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r cyfryngau cymdeithasol yn un ffactor sydd yn gallu gwneud i bobl deimlo'n unig

O ganlyniad i hynny mae'r NSPCC wedi cyhoeddi canllawiau i rieni ar sut i gael sgwrs gyda'u plant os ydyn nhw'n ei chael hi'n anodd siarad gyda nhw.

Mae'n cynnwys siarad 芒'i gilydd pan fydd dim byd arall yno i darfu, bod yn barod i wrando, ceisio eto mewn rhai dyddiau os nad ydyn nhw am siarad, a pheidio 芒 gorymateb os ydyn nhw'n dweud rhywbeth pryderus.

"Does dim un rheswm penodol pam fod cymaint o bobl ifanc yn dioddef o unigrwydd, ac o ganlyniad does dim ateb syml i'r broblem," meddai Des Mannion, pennaeth NSPCC Cymru.

"Beth sy'n amlwg yw bod y byd yn dod yn le mwy cymhleth i dyfu fyny, gyda phlant a phobl ifanc yn teimlo pwysau yn ddyddiol i gyrraedd diffiniad cymdeithas o fywyd llwyddiannus - graddau, perthnasau, sut mae rhywun yn edrych.

"Mae'n hanfodol felly bod gan blant a phobl ifanc bobl o'u cwmpas, yn enwedig rhieni, y gallan nhw fod yn agored 芒 nhw yngl欧n 芒 sut maen nhw'n teimlo."