Cwestiynu addewid iawndal pennaeth Cyngor Sir G芒r
- Cyhoeddwyd
Mae pennaeth Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi gwrthod dweud a fydd yn anrhydeddu ei addewid i ad-dalu arian i'r awdurdod.
Fe enillodd y prif weithredwr, Mark James iawndal mewn achos enllib yn erbyn blogiwr, Jacqui Thompson ym mis Mawrth.
Y cyngor wnaeth dalu am yr achos, a dywedodd Mr James yn 2012 y byddai'n talu'r arian yn 么l.
Mae'n rhaid i Ms Thompson, o Lanwrda, dalu 拢25,000 erbyn 2027, ac mae hi'n gwneud hynny fesul tipyn.
Mae 大象传媒 Cymru yn deall bod y cyngor wedi talu cyfanswm o dros 拢35,000 mewn costau cyfreithiol ar ran Mr James.
Fe ddyfarnodd Swyddfa Archwilio Cymru bod y cyngor wedi ymddwyn yn anghyfreithlon wrth addo talu'r ffioedd yma.
'Hollol annerbyniol'
Dywedodd Mr James yn 2012 nad arian oedd ei gymhelliant dros yr achos, ac fe wnaeth addo y byddai unrhyw arian y byddai'n ei ennill yn "cael ei dalu i'r awdurdod".
Ond fe wnaeth cyfreithwyr Mr James wrthod datgelu os fyddai'r arian yn cael ei roi i'r cyngor.
Mewn ymateb, dywedodd Ms Thompson y byddai'n "hollol annerbyniol" petai Mark James yn newid ei feddwl ac yn dewis cadw'r arian.
Ychwanegodd llefarydd ar ran Cyngor Sir G芒r nad oedd ganddyn nhw unrhyw sylw pellach i'w wneud ar y mater.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mawrth 2017