Ll欧n yn ganolbwynt daeargrynfeydd yn y DU
- Cyhoeddwyd
Mae Pen Ll欧n yn un o'r llefydd sydd wedi cael y nifer uchaf o ddaeargrynfeydd yn y DU, yn 么l gwybodaeth newydd.
Mae map sydd wedi ei gyhoeddi gan Esri UK yn dangos dros 10,000 o ddaeargrynfeydd sydd wedi digwydd ers 1970.
Pen Ll欧n yw un o'r 10 ardal fwyaf actif, a'r unig le yng Nghymru.
Roedd hefyd yn leoliad i'r daeargryn mwyaf yn y DU yn y 50 mlynedd diwethaf, oedd yn gryndod o 5.4 ar y raddfa yng Ngorffennaf 1984.
Cafodd y map ei chreu gan Esri UK gyda gwybodaeth yr Arolwg Daearegol Prydeinig, ac mae'n nodi pen-blwydd y Raddfa Richter, Charles Richter, fu farw yn 1985.
Roedd y daeargryn mwyaf yn y DU ym Mor y Gogledd yn 1931, gan fesur 6.1 ar y raddfa.
Dywedodd yr Arolwg Daearegol Prydeinig bod daeargrynfeydd mwy ac amlach yn digwydd ar arfordir y gorllewin, a bod "gogledd Cymru, o gwmpas Caernarfon a Phen Ll欧n, a ffin Cymru, yn dangos lefelau uwch o seismigedd".