大象传媒

Ymestyn gwaharddiad ysmygu ar draeth

  • Cyhoeddwyd
arwydd traeth
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Traeth Little Haven oedd y cyntaf i gyflwyno gwaharddiad

Fe fydd gwaharddiad ysmygu ar draeth yn Sir Benfro'n cael ei ymestyn am gyfnod amhenodol.

Daeth gwaharddiad i rym ar draeth Little Haven ym mis Mawrth y llynedd, ac roedd i fod i bara am gyfnod prawf o flwyddyn. Mae Cyngor Sir Penfro nawr yn dweud y bydd yn parhau "am y dyfodol rhagweladwy".

Traeth Little Haven a thraeth Bae Caswell, Abertawe yw'r unig draethau di-fwg yng Nghymru, ond mae'r gwaharddiad yn un gwirfoddol yn y ddau le.

Mae'r gr诺p Forest - sy'n lob茂o ar ran ysmygwyr - yn amau'r angen am waharddiad o'r fath yn y lle cyntaf.

Dywedodd Cyngor Sir Penfro ei fod yn gobeithio ymestyn y gwaharddiad i draethau eraill "os fyddwn ni'n gweld digon o gefnogaeth".

Does yr un cyngor arall yng Nghymru 芒 gwaharddiad ysmygu ar draethau nac yn bwriadu eu cyflwyno.

Ffynhonnell y llun, Jeremy Bolwell/Geograph
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Traeth Bae Caswell yw'r traeth arall sydd 芒 gwaharddiad ar ysmygu mewn grym

Yn 么l un o adroddiadau'r cyngor, doedd dim tystiolaeth o sbwriel ysmygu ar draeth Little Haven, ac yn ystod ymweliadau ar hap 芒'r traeth "doedd dim adroddiadau o unrhyw un yn ysmygu ar y traeth".

Ond dywedodd Simon Clark, cyfarwyddwr Forest: "Does dim tystiolaeth bod ysmygu yn yr awyr agored yn creu risg i iechyd unrhyw un, felly dyw hwn ddim yn fater iechyd cyhoeddus.

"Ar adegau prin pan mae'r traeth yn llawn pobl - g诺yl banc braf er enghraifft - dylai ysmygwyr ddefnyddio'u synnwyr cyffredin a dangos ystyriaeth i bobl sy'n eistedd yn agos atyn nhw."