大象传媒

A470: Ffordd mewn biliwn

  • Cyhoeddwyd
"Alla'i ddim credu'r ffordd 'ma!"
Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Alla'i ddim credu'r ffordd 'ma!"

"'Dyn ni 'di cyrraedd 'to?" Dyna gwestiwn sy'n cael ei ofyn yn aml gan deithwyr mewn ceir wrth deithio rhwng y de a'r gogledd ar yr A470. Mae'n gallu teimlo fel siwrne ddi-ddiwedd, ond fyddai'r sefyllfa yn gwella petai yna arian ar gael i'w gwella?

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwario 拢1.1bn er mwyn ysgafnhau'r tagfeydd traffig presennol ar yr M4 rhwng Magwyr a Chas-bach ger Casnewydd.

Does dim amheuaeth bod y tagfeydd ger twnneli Brynglas yn achosi rhwystredig aeth mawr i yrwyr yn gyson.

Ond beth am y teithwyr rheiny sydd wedi colli'r ewyllys i fyw ar sawl achlysur wrth fod yn sownd tu 么l i garaf谩n ar yr A470? Pa mor bell y byddai 拢1.1bn yn mynd i wella'r daith anodd honno?

Byddai'r gost o greu ffordd ddeuol ar hyd yr A470 yn cymharu gyda'r gwaith sydd yn digwydd i greu ffordd tebyg ar hyd yr A465, Ffordd Blaenau'r Cymoedd ar hyn o bryd. Cost fesul cilometr (km) y cynllun ar gyfartaledd yw 拢24m y cilometr.

Pa mor bell ar 拢1bn?

Ar hyn o bryd mae'r A470 yn ffordd ddeuol yr holl ffordd o Gaerdydd i Ferthyr Tudful. Petai 'na fuddsoddi o 拢1bn byddai'n bosib teithio 42km neu 26 milltir ychwanegol ar ffordd ddeuol hyd at gyrion Felinfach, sydd tua 3 milltir i'r gogledd o Aberhonddu.

Pan gofiwch chi mai 41 milltir yw'r pellter rhwng Caerdydd ac Aberhonddu, mae codi ffordd newydd yn waith drud iawn! .. ac mae 'na 138 milltir ar 么l tan i ni gyrraedd pen y daith yn Llandudno!

Ar wah芒n i ffordd osgoi Aberhonddu does 'na ddim ffordd ddeuol am weddill y daith hir i'r gogledd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r llinell las yn dangos pa mor bell y byddai 拢1 biliwn yn mynd i wella'r A470 yn y de

Cyn i bobl y gogledd ein cyhuddo o edrych ar bob dim o gyfeiriad Caerdydd, pa mor bell y byddai'r 拢1bn yn mynd petai'r gwaith o ddeuoli'r A470 yn dechrau yn Llandudno?

Byddai ffordd ddeuol 26 milltir o hyd yn mynd 芒 chi i 'Bont Rufeinig', ger Dolwyddelan. Mae'n bosib hefyd i chi ddilyn ffordd B fwy uniongyrchol a chyrraedd Carrog, cymuned fechan i'r de o Benmachno.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Pa mor bell aiff 拢1bn: Y llinell las yn dangos deuoli'r ffordd o Landudno i gyrion Dolwyddelan

Gan ddefnyddio'r ffigyrau yma byddai'n costio bron i 拢6bn i ddeuoli pob cam o'r A470. Ond, mewn oes o doriadau ac ansicrwydd yngl欧n 芒 pherthynas y DU gydag Ewrop, mae'n edrych yn debyg mai ymlwybro tu 么l i'r lor茂au a'r carafanau ydy'r unig ddewis i'r rhan fwyaf ohonon ni am rai blynyddoedd i ddod.