大象传媒

'Ceisio cael mwy i gerdded Llwybr yr Arfordir'

  • Cyhoeddwyd
Llwybr Arfordirol

Wrth i Lwybr yr Arfrodir ddathlu ei ben blwydd yn bump oed, yr her nesaf, medd prif weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru, yw cael mwy o bobl i'w gerdded.

Llwybr Arfordir Cymru yw'r llwybr di-dor cyntaf o'i fath yn y byd ar hyd arfordir cenedlaethol.

Mae'r llwybr yn ymestyn am 870 milltir ac yn dod ag incwm i fusnesau lleol. Mae ffigyrau ar gyfer 2014 yn dangos bod cerddwyr arfordir Cymru wedi gwario 拢84.7 miliwn tra'n cerdded y llwybr ac wedi cynnal 1,000 o swyddi.

Mae'r ffigyrau hefyd yn dangos bod 43.4 miliwn o ymweliadau undydd wedi bod ag arfordir Cymru, a bod hynny'n cynnwys cerdded fel gweithgaredd.

'Enghraifft ragorol'

Roedd hyn yn amrywio o bobl leol yn mynd am dro bach hamddenol ar y traeth, i ymwelwyr yn cerdded y llwybr cyfan 870 milltir dros gyfnod o 100 neu fwy o ddyddiau.

Dywedodd Emyr Roberts, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru: "Mae Llwybr Arfordir Cymru yn manteisio'n llawn ar yr adnodd naturiol ardderchog yr ydym yn gofalu amdano ac mae'n enghraifft ragorol o sut y gall yr amgylchedd helpu cymaint o wahanol rannau o gymdeithas.

"Mae'n rhoi hwb i'n heconom茂au gwledig a threfol drwy dwristiaeth, mae'n gwella iechyd a lles ac yn annog pobl i fynd allan i gerdded ac yn cysylltu pobl 芒'r natur ryfeddol sy'n byw ar hyd ein harfordir ysblennydd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Llwybr yr Arfodir yn cynnig cyfleon i gerddwyr o bob lefel

"Mae'r pum mlynedd cyntaf wedi rhoi dechrau ardderchog i ni, ond mae cymaint mwy y gallwn ei wneud. Yn ystod y flwyddyn nesaf byddwn yn gweithio'n galed i geisio cael mwy o bobl fyth i fanteisio ar yr adnodd naturiol rhyfeddol hwn."

Ychwanegodd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig: "Roedd Cymru'n torri cwys newydd yn 2012 - hi oedd y wlad gyntaf yn y byd i gael llwybr arbennig ar hyd ei harfordir cyfan.

"Ers hynny, mae Llwybr Arfordir Cymru wedi darparu manteision amgylcheddol, iechyd ac economaidd i gerddwyr di-rif.

"Rwyf wedi mwynhau darganfod adrannau ohono fy hun. Dros y flwyddyn newydd cerddais llwybr arfordirol Ynys M么n ac edrychaf ymlaen i gerdded rhannau pellach o'r llwybr yn y dyfodol.

Mae Llwybr Arfordir Cymru yn cynnig rhywbeth at ddant pawb, - o gerdded hamddenol gyda theulu ifanc i deithiau cerdded dramatig ac arswydus ar hyd y clogwyni."