大象传媒

Mwy o blant yng Nghymru ar y sbectrwm awtistig

  • Cyhoeddwyd
awtistiaethFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae nifer y plant yng Nghymru sydd 芒 chyflyrau ar y sbectrwm awtistig wedi codi mwy na 50%.

Yn 么l ffigurau Llywodraeth Cymru, roedd 3,450 o ddisgyblion awtistig mewn ysgolion yng Nghymru yn 2011 - yn 2016 roedd y nifer yn 5,325.

Dywed y Gymdeithas Awtistaidd Genedlaethol bod yn rhaid sicrhau diwygiadau cyson ym maes anghenion addysgol arbennig er mwyn gwneud yn si诺r bod "anghenion plant awtistig wastad yn cael eu deall."

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn gwario 拢7m yn ychwanegol ar wasanaeth awtistiaeth cenedlaethol.

Mae'r ffigurau ar gyfer y plant sydd ag anhwylderau ar y sbectrwm awtistig wedi'u cymryd o gyfrifiad blynyddol ysgolion.

Roedd y cynnydd mwyaf yn nisgyblion ysgolion cynradd wrth i'r nifer godi o 1,290 yn 2011 i 2,055 yn 2016.

'Cyflawni eu potensial'

Mae'r nifer mewn ysgolion uwchradd wedi codi o 1,300 i 1,915 ac mewn ysgolion arbennig mi gododd y nifer o 855 i 1,300. Doedd dim llawer o newid yn y niferoedd mewn ysgolion meithrin.

Yn 么l Meleri Thomas o Gymdeithas Awtistaidd Cymru, gwell dealltwriaeth ac adnabyddiaeth o'r anhwylder yw'r prif reswm am y cynnydd ac hefyd y gefnogaeth gynyddol y mae plant awtistig yn ei dderbyn yn yr ysgol.

Meddai: "Dywedodd pedwar o bob pump rhiant a holwyd bod eu plentyn yn derbyn cefnogaeth ychwanegol yn yr ysgol oherwydd awtistiaeth - a hynny drwy weithredu gan yr ysgol, yr ysgol a mwy neu ddatganiad.

"Ond dim ond dau riant ymhob pump a ddywedodd bod eu plentyn yn derbyn yr holl gefnogaeth a'r ddarpariaeth sy'n cael eu nodi yn y datganiad neu yn y cynllun addysg."

Ychwanegodd Ms Thomas bod yn rhaid i newidiadau ym maes anghenion addysgol arbennig sicrhau bod plant "yn cael y gefnogaeth sydd angen arnynt er mwyn cyflawni eu potensial llawn".

Wrth gyhoeddi arian ychwanegol ym mis Mawrth i'r gwasanaeth awtistiaeth, fe ddywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd Cyhoeddus Rebecca Evans y byddai'r cyllid yn "helpu sicrhau fod pobl yn cael gwasanaeth cyson a'r gefnogaeth briodol mewn unrhyw le ac ar unrhyw amser".