大象传媒

Galw am wahardd gwelyau haul yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Gwely haulFfynhonnell y llun, Thinkstock

Mae 'na alw am wahardd gwelyau haul yng Nghymru oherwydd peryglon o ganser.

Yn 么l aelod o Gymdeithas y Dermatolegwyr, mae eu defnydd yn cynyddu'r risg o melanoma, math o ganser y croen, yn "sylweddol".

Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried "unrhyw weithredu pellach" posib ar 么l i'r rheolau yngl欧n 芒 defnyddio gwelyau haul gael eu tynhau chwe blynedd yn 么l.

Daw'r alwad wrth i Gymdeithas y Dermatolegwyr gynnal wythnos o ymgyrchu er mwyn codi ymwybyddiaeth o ganser y croen.

'Cynnydd sylweddol ymhlith dynion'

Mae ffigyrau ar gyfer 2012-14 yn dangos nifer yr achosion o melanoma yng Nghymru wedi cynyddu 75% mewn dynion o gymharu 芒'r degawd cyn hynny.

Roedd nifer yr achosion yn 2014 yn 28.5 ymhob 100,000 dyn.

Roedd yna gynnydd o 33% ymhlith merched wrth i'r nifer godi i 23.2 achos ymhob 100,000.

Ffynhonnell y llun, Thinkstock

"Mae gwahardd gwelyau haul yn rhywbeth y bysen ni'n argymell," meddai'r Dr Elin Dafydd Owen, aelod o Gymdeithas y Dermatolegwyr wrth Newyddion 9.

"Mae 'na dystiolaeth sylweddol bod mynd ar wely haul yn cynyddu'r risg o melonoma yn sylweddol.

"Da ni'n gweld lot o ferched ifanc yn eu hugeiniau, eu tridegau yn dod mewn i'r clinig efo melonoma am fod nhw wedi cynyddu'r risg drwy ddefnyddio gwelyau haul."

'Gwlayau haul adref sy'n beryg'

Dywedodd Gary Lipman, cadeirydd Cymdeithas y Gwelyau Haul: "Mae unrhyw awgrym o dystiolaeth llethol yn gwbl anghywir.

"Mae dadansoddiad cywir yn dangos mai defnydd meddygol o gyfarpar uwchfioled ac unedau sy'n cael eu defnyddio adref sy'n bennaf cyfrifol am y risg ac nid gwelyau haul sy'n cael eu defnyddio mewn salon proffesiynol.

"Ry'n ni byth yn deall pam nad yw arbenigwyr croen yn cydnabod hyn. Dy'n ni ddim yn argymell bod gwelyau haul yn cael eu defnyddio adref ond does dim tystiolaeth i gyfiawnhau gwahardd defnyddio gwelyau haul yn synhwyrol mewn salonau proffesiynol."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Fe wnaethom ni gyflwyno deddfwriaeth yn 2011 i fynd i'r afael 芒'r defnydd o welyau haul gan bobl o dan 18 ac i gyflwyno mesurau i leihau risgiau i oedolion sy'n dewis defnyddio gwelyau haul.

"Rydym ar hyn o bryd yn ystyried effaith y ddeddf yma ac yn ystyried unrhyw weithredu pellach sydd ei angen, gan gynnwys y posibilrwydd o reoleiddio pellach o dan y Mesur Iechyd Cyhoeddus, os gaiff ei basio."