大象传媒

Byw mewn tair iaith

  • Cyhoeddwyd
Kaisa PankakoskiFfynhonnell y llun, Liza Brunzell

Mae Kaisa Pankakoski yn wreiddiol o'r Ffindir ac yn byw yng Nghaerdydd gyda'i phartner Simon a dau o blant. Mae Lucas sy'n saith oed a Nia sy'n dair yn siarad tair iaith - Ffinneg gyda'u mam, Saesneg gyda'u tad a Chymraeg.

Mae Kaisa'n gweithio ar ei Doethuriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd yn astudio teuluoedd teirieithog yng Nghymru a'r Ffindir. Ar hyn o bryd mae hi a'i phlant wedi ymgartrefu yn Helsinki am gyfnod, tra bod Kaisa'n cyfweld 芒 theuluoedd sy'n byw trwy gyfrwng tair iaith a rhoi'r cyfle i'w phlant gael addysg yn y Ffinneg, cyn dychwelyd i Gaerdydd yn yr haf.

Bu'n s么n rhagor am ei phrofiadau o fyw bywyd mewn tair iaith gyda Cymru Fyw:

Pan gafodd fy mab ei eni, ro'n i'n teimlo ei fod yn naturiol i fi siarad Ffinneg ag e. Mae ei dad yn siarad Saesneg, ac roedd gyda ni ffrindiau sy'n siarad Cymraeg ac ro'n i'n mynd i grwpiau Cymraeg i fabanod. Erbyn bod Lucas yn ddwy oed roedd yn gwneud mor dda gyda'i ddwy iaith gyntaf, fe wnaethon ni benderfynu efallai y byddai addysg Gymraeg yn gweithio i ni. Rydw i'n hoffi sialens, a dydyn ni erioed wedi edrych n么l!

Dwi'n siarad chwech o ieithoedd i raddau gwahanol a dwy flynedd yn 么l ro'n i'n chwilio am gyfeiriad newydd i fy mywyd. Roedd ymchwilio i deuluoedd teirieithog wedi bod ar fy meddwl ers tipyn, ac yn Hydref 2015 dechreuais ar gwrs ymchwil 么l-radd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd gyda Yr Athro Diarmait Mac Giolla Chr铆ost.

Fel rhan o fy noethuriaeth, rwy'n astudio yn adran Ieithoedd Modern Prifysgol Helsinki ar hyn o bryd a byddai'n cyfweld 芒 phump teulu sydd 芒 phlant mewn ysgol gynradd ac yn siarad tair iaith yma. Mae'n gyffredin iawn i deuluoedd yn Y Ffindir i fod yn amlieithog.

Yn ddiweddarach yn y flwyddyn bydda i'n cyfweld 芒 phump teulu yng Nghaerdydd sydd 芒 phlant oed cynradd yn clywed y Gymraeg, Saesneg ac un iaith leiafrifol arall.

Ffynhonnell y llun, Kaisa Pankakoski
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Lucas, Nia a Kaisa yn S诺 Helsinki

Teimlo'n gartrefol

Symudais i Gymru yn 2004 i astudio MA mewn Newyddiaduraeth Ryngwladol yn Ysgol Newyddiaduriaeth Prifysgol Caerdydd. Cyn hynny ro'n i wedi byw mewn dwsin o ddinasoedd mewn pum gwlad wahanol, Y Ffindir, Ffrainc, Lloegr, Sbaen a Chile, ond yn syth, roeddwn i'n teimlo'n gartrefol yng Nghymru, a dwi'n cyfri Cymru yn gartref ers hynny.

Heblaw am y glaw, y gaeafau mwynach a'r m芒n siarad yng Nghymru, mae 'na lot o bethau sy'n debyg yn y ddwy wlad. Mae Cymru a'r Ffindir yn wledydd bach Ewropeaidd, dwyieithog, gyda phobl 芒 gwerthoedd tebyg.

Ond mae 'na rai pethau sy'n wahanol hefyd, yn arbennig y system addysg. Yn y Ffindir, dyw plant ddim yn dechrau yn ffurfiol yn yr ysgol tan eu bod nhw'n saith oed. Does dim gwisg ysgol ac maen nhw'n gwisgo dillad cyfforddus a sliperi neu sanau yn y dosbarth.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

A yw disgyblion Y Ffindir yn dysgu mwy yn nhraed eu sanau?

Dwy wlad yn dysgu gyda'i gilydd

Mae pawb yn cael cinio am ddim a does dim mwy na hanner awr o waith cartref bob dydd. Mae'r plant hefyd yn galw'r athrawon wrth eu henwau cyntaf. Mae plant chwech i saith oed yn treulio tua pedair awr yn cael gwersi ffurfiol a gweddill yr amser yn chwarae'n rhydd tu allan.

Does gen i ddim byd ond canmoliaeth i ysgol Gymraeg Lucas yng Nghaerdydd a dwi'n meddwl y gall y ddwy wlad ddysgu oddi wrth ei gilydd. Mae gan yr ysgol yng Nghymru gynllun darllen ardderchog, ond dydy darllen ddim yn cael ei gyflwyno tan bod y plant yn h欧n yn Y Ffindir.

Pan o'n i'n blentyn yn yr ysgol, nes i dreulio dwy flynedd gynta' yn eistedd yng nghefn y dosbarth yn darllen llyfrau a sgrifennu stor茂au, gan fy mod wedi dysgu adre', tra bod gweddill y dosbarth yn dysgu'r wyddor - efallai y byswn i wedi manteisio o ddechrau ar fy siwrne addysgol yn ifancach na saith oed!

Un sialens i ni fel teulu yw i'r plant gael eu trwytho ddigon yn y dair iaith, fel eu bod nhw'n tyfu i fyny yn eu siarad nhw i gyd yn dda. Dwi wedi sefydlu Ysgol Ffinneg ar ddydd Sadwrn yng Nghaerdydd a thra fy mod i a'r plant yn Helsinki, rydyn ni'n cwrdd 芒 Glyn Banks sy'n siaradwr Cymraeg yma fel ein bod ni'n cael cyfle i siarad yr iaith.

Fe wnes i a Lucas gyflwyniad am Gymru yn yr ysgol yn ddiweddar, mae dros hanner plant ei ddosbarth yn siarad dwy os nad tair iaith a roedd ganddyn nhw ddiddordeb mawr yn dysgu am Gymru a beth yw diwrnod cyffredin yn yr ysgol i Lucas n么l adre yng Nghaerdydd.

Mae ei gyfoedion mewn ysgol blynyddoedd cynnar fan hyn, dydyn nhw ddim yn cychwyn ysgol yn swyddogol tan fis Medi, felly roedden nhw'n synnu clywed ei fod e wedi cychwyn ers sawl blwyddyn!

Ar 么l gorffen fy noethuriaeth byswn i wrth fy modd yn gweithio ar brosiect yn helpu teuluoedd amlieithog yng Nghymru a'u helpu i fagu eu plant i ddatblygu eu sgiliau ieithyddol.

Ffynhonnell y llun, Kaisa Pankakoski