Cyfarwyddwr Cerdd Eisteddfod Llangollen i adael
- Cyhoeddwyd
Mae'r arweinydd corawl a'r cerddor Eilir Owen Griffiths yn cyhoeddi ei fod yn gadael ei r么l fel Cyfarwyddwr Cerdd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen.
Ar 么l chwe blynedd yn swydd, fe fydd Mr Griffiths yn ymddiswyddo yn dilyn dathliadau 70 mlwyddiant yr Eisteddfod eleni.
Mr Griffiths yw Cyfarwyddwr Cerdd ieuengaf erioed yr Eisteddfod, ac fe fydd yn gadael yr 诺yl i ganolbwyntio ar ddatblygiadau newydd o fewn Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Yn ystod ei gyfnod wrth y llyw, mae wedi bod yn gyfrifol am gyflwyno cystadlaethau C么r Plant y Byd, Llais y Dyfodol a Llais Sioe Gerdd i raglen yr Eisteddfod, yn ogystal 芒 threfnu nifer o gyngherddau a digwyddiadau gydag artistiaid byd enwog megis Status Quo, UB40, Burt Bacharach a Jools Holland.
Dywedodd Mr Griffiths: "Mae'n anodd i mi grynhoi chwe blynedd mor ardderchog. Rwy'n falch fy mod yn gorffen fy amser gydag Eisteddfod Llangollen hefo gymaint o atgofion braf ac mae'n fraint i fod yn camu i lawr ar 么l y dathliadau 70.
"Rwy'n lwcus bod fy amser fel Cyfarwyddwr Cerdd wedi caniat谩u i mi weithio ar brosiectau rwy'n teimlo'n angerddol iawn amdanyn nhw. O'r dechrau, roeddwn yn awyddus i greu mwy o gyfleoedd i bobl ifanc o fewn yr 诺yl - a dyma oedd tarddiad cystadlaethau C么r Plant y Byd, Llais y Dyfodol a chystadlaethau Cerddorion Ifanc.
"Rwy'n gobeithio bydd hyn yn rhan o'm gwaddol."
'Brwdfrydedd heintus'
Ychwanegodd Cadeirydd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, Dr Rhys Davies: "Mae brwdfrydedd Eilir yn heintus ac mae wedi bod yn bleser gweithio gydag o am y chwe blynedd ddiwethaf, yn creu digwyddiadau unigryw a chofiadwy bob blwyddyn.
"Mae cyfraniad Eilir i raglen yr Eisteddfod, o ran yr artistiaid y cafodd i berfformio a hefyd yr elfen gystadleuol a chymunedol a ddatblygodd, yn waddol teilwng iawn.
"Yn ystod ei amser gyda ni, mae wedi glynu wrth egwyddorion craidd yr Eisteddfod Ryngwladol - gan uno pobl trwy heddwch, cyfeillgarwch, cerddoriaeth a dawns."
Mae'r eisteddfod yn dweud eu bod wedi cychwyn ar y broses o recriwtio Cyfarwyddwr Cerdd newydd, i gychwyn yr haf hwn.