大象传媒

Emoji baner Cymru ar gael i'w defnyddio am y tro cyntaf

  • Cyhoeddwyd
Baner

Mae emoji baner Cymru wedi cael ei gyhoeddi ac ar gael i'w defnyddio am y tro cyntaf.

Cafodd yr emoji s锚l bendith gan Unicode, y corff rhyngwladol sy'n eu datblygu, yn gynharach eleni.

Fe wnaeth Unicode gytuno i ychwanegu baneri Cymru, Yr Alban a Lloegr yr un pryd.

Ni chafodd baner Gogledd Iwerddon ei hystyried gan nad oes ganddi statws swyddogol.

Mae gan gwmn茂au megis Apple, Google, Microsoft a Facebook nawr y dewis o'u hychwanegu i'w systemau.

Cafodd yr ymgyrch i sefydlu emoji baneri gwledydd Prydain ei ddechrau gan Jeremy Burge o Emojipedia a phennaeth cyfryngau cymdeithasol 大象传媒 Cymru, Owen Williams.

Mae'n bosib na fydd modd gweld yr emoji newydd ar rai cyfrifiaduron a ffonau symudol ar hyn o bryd fodd bynnag, yn dibynnu ar ba systemau sy'n eu gweithredu.

Ffynhonnell y llun, Twitter/大象传媒 Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Neges trydar gan 大象传媒 Cymru yn cyhoeddi fod yr emoji newydd wedi cyrraedd