大象传媒

Teulu Syr Wynff

  • Cyhoeddwyd
Hysh a wei! Syr Wynff ap Concord, un o gymeriadau mwyaf eiconig yr iaith Gymraeg
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Hysh a wei!

Dydy hi ddim yn syndod bod Syr Wynff ap Concord y Bos yn cael ei ystyried yn un o'r cymeriadau mwyaf poblogaidd erioed ar raglenni teledu i blant Cymru. Mae Wynford Ellis Owen, yr actor tu 么l i'r cymeriad eiconig, bellach yn daid ac mae ei ferch Bethan a'i wyres Begw hefyd wedi gosod eu stamp ar y sgrin fach.

Mae Bethan Ellis Owen yn chwarae rhan Ffion Llywelyn yn Pobol y Cwm. Y dolig diwetha' fe ymddangosodd ei merch hithau, Begw, yn y ffilm Albi a Noa yn Achub yr Iwnifyrs ar S4C.

Aeth Cymru Fyw i holi'r dair cenhedlaeth am y dylanwadau a'u barn am yrfa ei gilydd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Wynfford Ellis Owen

Wynford Ellis Owen - "Gweithio'n gr锚t efo'n gilydd"

Doeddwn i ddim yn dda iawn yn academaidd, roedd gynna i ddewis un ai mynd yn blisman neu i'r byd yma.

Roeddwn i'n mwynhau perfformio a siarad cyhoeddus yn yr ysgol ond yn y cyfnod hynny roedd y feddylfryd bod yn rhaid i chi gael tystysgrif athro y tu cefn i chi, sicrwydd o swydd, felly roedd y cwrs yn y coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd yn plesio fy rhieni. Roeddach chi'n neud cwrs actio am ddwy flynedd a blwyddyn o ymarfer dysgu wedyn.

Ffermwyr ac athrawon yn ymarfer tu allan i oriau gwaith oedd yr actorion yn y cyfnod hynny. Wedyn daeth pethe'n fwy proffesiynol ac roedd rhywun yn gallu canolbwyntio ar actio'n unig.

R'on i wedi bod yn gweithio fel rheolwr llawr yn y 大象传媒 ac fel cyfarwyddwr, yn gweithio ar y pantomeims cyntaf gyda Theatr Cymru, a dyfeisio'r cymeriad eiconig Fairynuff.

Wedyn yn y 1970au roedd Mer锚d [Merdydd Evans, pennaeth adloniant ysgafn 大象传媒 Cymru] wedi gofyn i mi ddod fyny efo rhyw syniad, Teliffant, rhaglen j么cs a ffilmiau bach oedd hi, ond do'n i ddim yn rhyw hapus efo'r fformat yna, ac o'n i eisio iddo fo fod yn fwy o sitcom. Fe ddatblygodd cymeriadau Syr Wynff ap Concord y Bos a Plwmsan o hynny.

Oedd Mici Plwm a finna'n deall ein gilydd, a'r ffaith 'mod i'n dal a fynta'n fyr ac yn grwn, roeddan ni'n complimentio ein gilydd.

Fe fuodd 'na gyfnod o ail sefydlu fy hun wedi i mi gael fy mhroblemau efo alcohol. Wedyn fues i'n greadigol iawn am gyfnod ar 么l stopio yfed, gyda'r cyfresi Porc Peis Bach, sioeau Eisteddfod, llyfrau ac yn y blaen.

Ffynhonnell y llun, Bethan Ellis Owen
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Merch ei thad: Bethan a Wynford

Dwi ddim yn si诺r os oedd Meira fy ngwraig a fi'n falch bod Bethan wedi mynd i'r byd actio ar y pryd achos dydy o ddim yn fywyd hawdd, ond roedd Bethan yn benderfynol o'i wneud o.

Mae ganddi'r dalent hefyd, mae wedi gwneud yn arbennig ar hyd y blynyddoedd. Byddwn i'n licio ei gweld hi'n gwneud fwy o rannau sy'n ei stretcho hi - mae'n llawer gwell na fi.

Dros yr haf dwi am ddechrau gweithio ar sgriptiau efo Bethan. Mae 'na brinder orffwysol mewn dram芒u llwyfan yn y Gymraeg a dwi'n gweld hwnna fel cam nesa' yn fy ngyrfa, i drio helpu i lenwi'r bwlch yna, a mi fydd Bethan a fi'n gweithio'n gr锚t efo'n gilydd.

Mae gen i falchder mawr o weld Begw'n perfformio. Roedd hi'n ferch swil ofnadwy yn gwrthod gwneud dim byd yn gyhoeddus, ond dwi'n cofio rai blynyddoedd yn 么l mynd i'w gweld mewn sioe ac o'n i methu coelio beth o'n i'n ei weld.

Mae'n hyfryd i'w gweld yn esblygu. Mae Begw yn dipyn o ryfeddod, mae o ynddi hi.

Bethan Ellis Owen - "Dwi'n ffan mawr o Dad"

Roedd Dad yn sicr yn ddylanwad arna i. Pan o'n i'n fach oedd o'n gwneud Syr Wynff a Plwsman a dwi'n cofio ei weld o ar y teledu ac yn mynd o gwmpas carnifals a petha' fel 'na ar y penwythnosau.

Pan cafodd Dad ran yn Dinas o'n i wrth fy modd yn cael mynd efo fo i'r gwaith, cael gweld y sets a'r actorion yn dysgu llinellau a chael colur a meddwl 'Waw, dwi isho neud hynna!'

Dwi'n cofio unwaith gweld Christine Pritchard oedd yn actio gwraig Dad yn Dinas. Roedd hi'n yfed coffi ac oedd 'na farc lipstic ar y gwpan a dwi'n cofio mynd adra a gwisgo lipstic ac yfed o gwpan i fod yr un peth.

Fy hoff actores oedd Sue Roderick, a roedd gwylio Codi Pais gyda hi, Gillian Elisa, Siw Hughes ac Eirlys Parri yn ysbrydoliaeth fawr ar fy mywyd.

Roedd gwaith Dad yn ddylanwad mawr iawn arnai, ond r'on i eisiau bod yn Sue Roderick.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Bethan wedi wynebu sawl her yn chwarae Ffion Llywelyn yn Pobol y Cwm

Mae gan Dad ddychymyg anhygoel. Dwi'n edrych 'mlaen i ni sgwennu efo'n gilydd yr haf 'ma, a dwi'n gobeithio dysgu trwyddo fo.

Dwi'n browd iawn ohono fo a'r ffordd mae o wedi llwyddo i ddelio 芒'i alcoholiaeth a'r holl waith y mae o 'di neud. Mae'n awdur ac yn actor anhygoel, a dwi'n ffan mawr ohono fo.

Roedd Begw yn swil iawn pan oedd hi'n ifanc. Doedd hi ddim am wneud dim byd yn yr Eisteddfod na pherfformio mewn unrhyw ffordd ond mae ei hyder wedi datblygu yn y blynyddoedd diwetha' ac mae hi wedi ei derbyn i'r National Youth Theatre.

Mae gan bawb dalent dwi'n meddwl, ac mae angen meithrin y dalent yna, be bynnag ydy o.

Dwi'n ei chefnogi hi i wneud be bynnag mae hi isho. Ydy mae'r byd actio'n anodd, mae gwaith yn gallu bod yn brin, ond os wyt ti eisiau rhywbeth ddigon mae unrhyw beth yn bosib.

Roedd ei gweld hi'n actio yn y ffilm Albi a Noa yn Achub yr Iwnifyrs yn wych. R'on i mor, mor browd ohoni.

Ffynhonnell y llun, Bethan Ellis Owen
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Begw gyda Taid

Begw Rowlands - "edrych lan at Taid"

Fi 'di tyfu lan yn gwylio Pobol y Cwm bob nos ac yn gweld Mam ar y teledu, a dwi'n gwybod bod Taid wedi neud Syr Wynff a Plwmsan, dram芒u llwyfan a llawer o bethau eraill. Mae'r ddau wedi bod yn ddylanwad arnai.

Dwi'n astudio at fy arholiadau TGAU ar hyn o bryd, a dwi'n cystadlu yn yr Eisteddfod yr Urdd yr wythnos yma, ond dwi'n lwcus iawn i fod wedi cael fy nerbyn ar gwrs National Youth Theatre. Bydd yn gyfle i fi gyfarfod mwy o bobl, gwella fy sgiliau actio ac i ddatblygu ymhellach.

Roedd actio yn y ffilm Albi a Noa yn anhygoel, d'on i erioed 'di neud dim byd fel 'na o'r blaen ac fe wnaeth e roi blas i fi a gwneud i fi sylweddoli mai dyma dwi am neud.

Dwi'n edrych lan at Taid. Fi'n teimlo'n browd iawn o Mam a Taid ac maen nhw'n sicr wedi fy ysbrydoli i. Dwi'n gwybod y byswn i'n caru 'neud be' maen nhw'n ei wneud yn y dyfodol.

Ffynhonnell y llun, Mei Lewis/Mission Photographic
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Begw yn serennu yn Albi a Noa yn Achub yr Iwnifyrs