大象传媒

Alex Jones yn dymuno i'w mab, Ted, siarad Cymraeg

  • Cyhoeddwyd
Alex JonesFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r ddarlledwraig Alex Jones wedi bod yn s么n am ei dymuniad a'i gobaith y bydd ei phlentyn yn siarad Cymraeg, ond yn derbyn y bydd hynny'n her tra ei bod hi'n byw a gweithio yn Llundain.

Mae ei mab Ted, yn ymweld 芒 Chymru ddwywaith y mis i weld ei dad-cu a'i fam-gu yn Sir Gaerfyrddin a dywedodd Alex, sy'n cyflwyno The One Show, ei bod yn gobeithio y bydd yn cael ei fagu'n ddwyieithog.

Fe fydd Ted a'i fam yn dychwelyd i Gymru ar gyfer rhifyn arbennig o The One Show fydd yn cael ei gyflwyno o Gaerdydd ddydd Gwener, ar drothwy ffeinal Cynghrair y Pencampwyr.

"Bydd gweithio yng Nghaerdydd yn hyfryd - fe fydd yna gymaint o egni yn y ddinas," meddai.

"Dyna un o'r pethau gorau am Gaerdydd - pan rydym yn croesawu digwyddiadau fel hyn mae'r ddinas yn dod yn fyw."

Etifeddiaeth

Cafodd Alex ei geni yn Rhydaman ond fe fuodd yn byw yng Nghaerdydd am gyfnod. Dywedodd bod y ddinas yn dal i deimlo fel cartrefi iddi, a'i bod yn colli'r lle.

Ychwanegodd ei bod yn awyddus i'w mab siarad Cymraeg, a'i bod wedi siarad am y peth gyda'i g诺r Charlie Thomson, sy'n wreiddiol o Seland Newydd.

"Mae'n anodd yn Llundain ond byddaf i'n bendant yn siarad Cymraeg ag e', ac mae Charlie yn gwybod ambell i air," meddai.

"Mae yna ysgol gynradd Gymraeg yn Llundain a byddwn wrth fy modd o'i weld yn mynd yno.

"Mae'n rhan o fy etifeddiaeth ac mae yn rhan fawr o'r hyn ydw i.

"Mae'n o'n beth mawr i mi i Ted allu cael yr un profiad - fe wnes i elwa o fod yn ddwyieithog."

Fe fydd The One Show yn fyw o Gaerdydd ar 大象传媒 One am 19:00 nos Wener.