Diffyg ffigyrau gweithwyr allweddol canser

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Does dim ffigyrau pendant yn dangos faint o gleifion canser yng Nghymru sydd 芒 gweithiwr allweddol yn cydlynu eu gofal.

Yn 2010, fe ddywedodd Llywodraeth Cymru y dylai'r byrddau iechyd sicrhau fod yna weithwyr allweddol - sydd yn helpu cydlynu gofal cleifion - yn eu lle erbyn Mawrth 2011.

Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru nad oedd data o'r fath yn "orfodol."

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei fod wedi cyflwyno safonau mesur i adolygu'r cynnydd.

Holiadur

Yn dilyn sawl galwad i 大象传媒 Cymru gan sawl claf canser yn dweud nad oedden nhw wedi derbyn gweithiwr allweddol - fe gyflwynwyd cais am rhyddid gwybodaeth.

Ond dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru "nad oedd hi'n bosib casglu niferoedd na chanrannau o nifer y cleifion canser sydd 芒 gweithiwr allweddol" gan nad oedd data yn gorfod cael ei gasglu.

Dywedodd fod yr holiadur diweddara i gleifion canser - sydd yn gofyn a oes gweithiwr allweddol ganddyn nhw - i fod ei gael ei gyhoeddi ar ddiwedd y mis.

Ychwanegodd y datganiad: "Dylai'r holiadur roi canran i ni o'r cydweithio sy'n digwydd yn genedlaethol a gan y byrddau iechyd, ond ei fod wrth gwrs yn adlewyrchu'r ymateb gan y canran o gleifion sydd wedi penderfynu ateb yr holiadur penodol."

Dywedodd PHW nad oedd er budd y cyhoedd i ryddhau'r data o'r holiadur diweddara, gan ei fod angen ei gasglu a'i gadarnhau.

Triniaeth

Dywedodd Susan Morris o Cefnogaeth Canser Cymru, sydd yn cynnal yr holiadur: "Mi fase goruchwyliaeth fwy cadarn o'r sefyllfa yn cael ei groesawu er mwyn sicrhau bod yr ymrwymiad yn cael ei wireddu.

"Roedd ein holiadur yn 2014, gafodd ei gynnal gan Macmillan a Llywodraeth Cymru, yn dangos bod traean o'r 7,352 o bobl 芒 chanser gafodd eu holi (34%) heb gael manylion cysylltu unrhyw weithiwr allweddol.

"Fel cyswllt uniongyrchol, maen nhw'n helpu'r bobl sydd wedi cael diagnosis canser i gael mynediad i'r wybodaeth a'r gefnogaeth gywir, gan gynnwys helpu gyda'r gofal a thriniaeth."

Disgrifiad o'r llun, Tydi Nick Phillips sy'n dioddef o ganseraid heb gael gweithiwr allweddol

Mae Nick Phillips o Bontypridd yn glaf canser sy'n dweud nad yw wedi derbyn gweithiwr allweddol.

Dywedodd: "Dylen nhw ddim dibynnu ar holiaduron cleifion, dyw e ddim yn adlewyrchiad manwl, nid pawb sy'n mynd i ymateb.

"Rydym eisiau gwybod y ffigyrau. Dylai pob claf dderbyn gweithiwr allweddol a chynllun gofal," meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae Gr诺p Gweithredu Canser, sy'n gyfrifol am gyflwyno'r Cynllun Cyflawni Canser, wedi nodi r么l y gweithiwr allweddol yn flaenoriaeth.

"Fel y cyfryw, mae gwaith yn cael ei wneud ar hyn o bryd i ddatblygu set o safonau a mesurau cysylltiedig i adolygu cynnydd mae byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd yn ei wneud mewn darparu gweithwyr allweddol, yn ogystal ag ar gyfer materion blaenoriaeth eraill."