大象传媒

Tywydd braf yn hwb sylweddol i dwristiaeth Cymru

  • Cyhoeddwyd
Wales tourism

Cafodd dros 拢4m ei wario gan dwristiaid a fu'n ymweld 芒 Chymru ar drip undydd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a hynny yn rhannol oherwydd y tywydd cynnes.

Mae'r ffigyrau swyddogol diweddaraf yn dangos bod 104.6 miliwn o deithiau undydd wedi cael eu gwneud rhwng Ebrill 2016 a Mawrth 2017 - mae hynny'n gynnydd o 24.4% ers yr un cyfnod y llynedd.

Ar gyfartaledd cafodd 拢42 ei wario ar bob ymweliad - roedd hynny 拢4 yn uwch na'r flwyddyn flaenorol ac yn uwch na'r cyfartaledd yn y DU.

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi Ken Skates bod twristiaeth yng Nghymru yn parhau i fod yn gadarnhaol a hynny mewn cyfnod heriol.

Roedd y rhan fwyaf o ymweliadau yn ystod mis Mai, a hynny yn rhannol oherwydd y tywydd cynnes - ac ymhlith y llefydd mwyaf poblogaidd roedd y ddinas a threfi mawr.

Yn 么l y Swyddfa Dywydd roedd y tywydd ar gyfartaledd yn gynhesach na'r flwyddyn flaenorol.

Ychwanegodd Mr Skates bod digwyddiad fel rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr y penwythnos diwethaf yn gyfle arbennig i Gymru ddenu twristiaid.

Dywedodd hefyd: "Roedd y nifer o dramorwyr a ddaeth i Gymru'r llynedd hefyd yn uwch ac fe wnawn yn fawr o'r cyfle i werthu Cymru i'r byd - fel man lle cafodd cefnogwyr brofiad anhygoel yn ystod Cynghrair y Pencampwyr wrth i Gareth Bale godi'r tlws yn ei ddinas enedigol"

  • Cafodd 5,000 eu holi ar gyfer yr arolwg

  • Mae trip undydd yn cael ei ddiffinio fel taith sy'n cymryd teirawr neu fwy gan gynnwys amser teithio

  • Rhaid i'r daith fod yn daith hamdden mewn man gwahanol i'r cartref a man gwaith

  • Ym Mhrydain cafodd 1.8 biliwn o deithiau eu gwneud rhwng Mawrth 2015 ag Ebrill 2016 - cynnydd o 0.6% ers y flwyddyn flaenorol