大象传媒

Dinbych i groesawu Eisteddfod yr Urdd yn 2020

  • Cyhoeddwyd
Dinbych
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd Dinbych yn croesawu'r Eisteddfod ac yn noddi'r Sioe Frenhinol yn 2020

Bydd Dinbych yn cynnal Eisteddfod yr Urdd yn 2020.

Mewn cyfarfod yno nos Fercher, a ddenodd dros 100 o bobl, roedd yna bleidlais unfrydol o blaid gwahodd yr Eisteddfod i'r dref.

Bydd yr 诺yl yn cael ei chynnal ar dir Fferm Kilford ar gyrion Dinbych - cartref yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2001 a 2013.

Dywedodd Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, Aled Sion, bod y sir a'r safle penodol yn ddewis amlwg pan fydd y digwyddiad yn dychwelyd i'r gogledd yn 2020 wedi tair blynedd yn olynol o gael ei chynnal yn y de.

"Does dim lot o lefydd yn y gogledd allan ni ymweld 芒 nhw, oherwydd naill ai ein bod ni wedi bod yna, neu am fod yr Eisteddfod Genedlaethol wedi bod, neu yn mynd yna," meddai.

"Dydyn ni erioed wedi cynnal yr Eisteddfod yn nhref Dinbych ei hun, felly mae'n argoeli'n dda."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe gynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yma yn 2001 a 2013

Roedd rhai yn y cyfarfod wedi awgrymu y byddai ei lleoli ger un o drefi arfordirol mwy Seisnig y sir yn annog o bobl mwy i ddysgu siarad Cymraeg.

Dywedodd y Cynghorydd Sir Emrys Wynne bod tir Fferm Kilford yn cynnig yr holl adnoddau angenrheidiol ar gyfer cynnal yr 诺yl, ond ei fod yn gobeithio y daw cyfle yn y dyfodol "iddi fynd i'r glannau neu i dde'r sir".

Pwysau ar bwyllgorau lleol

Roedd yna hefyd gwestiwn o'r llawr yngl欧n 芒'r pwysau ar bwyllgorau lleol i godi arian gan fod Sir Ddinbych hefyd yn noddi'r Sioe Frenhinol yn yr un flwyddyn.

Dywedodd cadeirydd bwrdd yr Eisteddfod, W Dyfrig Davies, eu bod yn cydnabod nad yw'r sefyllfa yn ddelfrydol, ond bod profiad yn amlygu bod y naill ddigwyddiad yn gallu elwa o'r llall o ganlyniad i gydweithio da rhwng trefnwyr y ddau achlysur.

Fe gafodd yr Eisteddfod ei chynnal yn Sir Ddinbych ddiwethaf yn Rhuthun yn 2006.