大象传媒

Cyngor i benderfynu ffawd cartref gofal yn Aberystwyth

  • Cyhoeddwyd
BodlondebFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae 13 o breswylwyr yng nghartref Bodlondeb

Bydd cynghorwyr Ceredigion yn cwrdd ddydd Gwener i benderfynu a ddylid dechrau'r broses o gau cartref gofal yn Aberystwyth.

Bu'r cyngor yn ceisio gwerthu cartref Bodlondeb ers dwy flynedd ac mae swyddogion y sir yn argymell ei gau.

Mae'r safle yn costio 拢400,000 y flwyddyn i'w gynnal ac mae angen gwaith adnewyddu ar yr adeilad yn 么l adroddiad gan swyddogion y sir.

Mae'n cyflogi 33 o staff. Dywed undeb y GMB y bydd cau'r cartref yn creu "gwagle mawr" yn y gofal sy'n cael ei gynnig yng nghanolbarth Cymru.

"Rydym wedi ein siomi gyda'r penderfyniad yma," meddai llefarydd, gan ychwanegu fod yr undebau wedi llwyddo i gadw'r cartref ar agor ar 么l brwydr debyg yn 2011.

Pe bai cynghorwyr yn pleidleisio dros gau byddai'r cartref yn rhoi'r gorau yn syth i dderbyn unrhyw drigolion newydd.

'Safonau angenrheidiol'

Mae'r adroddiad yn argymell cyfnod ymgynghori o wyth wythnos gyda theuluoedd, gyda'r penderfyniad terfynol i gau yn cael ei wneud gan y cabinet.

Ar hyn o bryd mae 13 o drigolion yno - 11 yn barhaol a dau dros dro. Byddai'n rhaid i'r trigolion presennol symud i gartref preswyl arall.

Mae gwelyau i 44 yn y cartref, ond dim ond 26 sydd wedi eu cofrestru, gan nad yw'r gweddill yn cyd-fynd 芒'r safonau angenrheidiol.

Mae Bodlondeb hefyd yn gallu cynnig gofal dyddiol i hyd at bump o bobl. Ar hyn o bryd mae un person yn mynd yno dau ddiwrnod bob wythnos.

Dywed Cyngor Ceredigion bod llefydd gwag mewn cartrefi eraill yn y sir a bod hyn yn ei dro yn adlewyrchu'r newid sydd wedi bod yn natur gofal yr henoed.

Yn gyffredinol yn 么l yr adroddiad mae pobl yn h欧n pan yn symud i ofal preswyl, a hynny gyda gofynion mwy cymhleth.

Dywed yr adroddiad fod Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi penderfynu yn erbyn gwneud cais i brynu'r safle.