大象传媒

Llai nag 1% o dadau Cymru yn rhannu absenoldeb rhiant

  • Cyhoeddwyd
Tom, Sam and Deb GreenFfynhonnell y llun, Thomas Green
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Tom a Deb Green wedi rhannu eu cyfnod absenoldeb rhieni er mwyn treulio chwe mis yr un gyda'u mab Sam

Dim ond 250 o dadau yng Nghymru wnaeth gymryd cyfnod o absenoldeb rhiant wedi ei rannu y flwyddyn ddiwethaf.

Roedd hyn o'i gymharu 芒 27,650 o famau yn cymryd cyfnod mamolaeth, yn 么l ffigyrau sydd wedi dod i law 大象传媒 Cymru gan HRMC ar gyfer 2016/17.

Mae'n golygu fod llai nag 1% o dadau newydd yng Nghymru yn derbyn t芒l am rannu cyfnod absenoldeb rhiant, er mwyn edrych ar 么l eu plant newydd-anedig.

Mae'r ffigyrau yn dangos y flwyddyn ariannol lawn cyntaf ers i system o rannu absenoldeb rhiant gael ei gyflwyno yn 2015.

'Dim pob person'

Mae'r ffigyrau, sydd wedi dod i law rhaglen Eye On Wales drwy gais rhyddid gwybodaeth, yn cyfrif dim ond dynion sydd wedi derbyn t芒l rhiant wedi ei rannu, a menywod sydd wedi derbyn t芒l mamolaeth statudol.

"Dywedodd llefarydd: "Mae rhai rhieni hefyd yn cymryd cyfnod absenoldeb heb d芒l. Dyw HMRC ddim yn gallu adnabod yr unigolion hyn, ac felly methu adnabod pob person sydd yn rhannu absenoldeb rhiant neu'n cymryd cyfnod mamolaeth."

Cafodd y ffigyrau eu talgrynnu i'r 50 agosaf.

Sut mae'n gweithio

  • Mae absenoldeb rhiant wedi ei rannu ar gael i unrhyw rieni sydd yn disgwyl genedigaeth babi, neu sydd 芒 phlentyn yn barod i gael eu mabwysiadu;

  • Mae'n rhaid cymryd yr absenoldeb rhwng geni'r plentyn a'u pen-blwydd cyntaf, neu o fewn blwyddyn i'w mabwysiadu;

  • Gall rhieni sy'n gymwys yn gallu rhannu hyd at 50 wythnos o absenoldeb a 37 wythnos o d芒l, ar 么l pythefnos cychwynnol gorfod y mae'n rhaid i'r fam ei chymryd;

  • Mae modd cymryd absenoldeb rhiant wedi ei rannu mewn un bloc, neu wedi ei rannu i gyfnodau llai os ydyn nhw am ddychwelyd i'r gwaith yn y cyfamser;

  • Mae t芒l rhiant statudol wedi ei rannu yn 拢140.98 yr wythnos, neu 90% o'ch cyflog wythnosol cyfartalog, beth bynnag sydd isaf.

Ffynhonnell y llun, monkeybusinessimages
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd 6,100 o dadau yn y DU d芒l tadolaeth wedi ei rannu yn 2016/17

Fe wnaeth Tom Green, 37, gweithiwr cyfrifiadurol gyda Phrifysgol Caerdydd, gymryd chwe mis o absenoldeb rhiant wedi ei rannu er mwyn gofalu am ei fab, Sam.

"Er bod menywod yn cymryd cyfnod mamolaeth mae hynny'n cael ei dderbyn fel y norm - fi oedd y person cyntaf i gymryd absenoldeb rhiant wedi ei rannu yn fy rhan i o'r brifysgol, felly roedd e'n anarferol," meddai.

"Os ydw i'n arwain y ffordd, dwi'n arwain y ffordd. Dwi ddim yn teimlo felly. Dwi jyst yn trio gwneud y gorau ar gyfer fy nheulu."

Dywedodd Jennifer Liston-Smith o My Family Care, sydd yn cynghori cyflogwyr i fod yn fwy hyblyg tuag at deuluoedd: "I ddod allan, fel petai, fel rhywun sydd eisiau rhannu'r gwaith o fod yn rhiant, yn enwedig i ddynion o ddiwylliant busnes mae'n gallu bod yn wahanol ac maen nhw am feddwl am bethau - ydi hyn am effeithio ar eu gyrfa?

Ffynhonnell y llun, GeorgeRudy

"Mae unrhyw beth fel hyn yn mynd i gymryd amser i ddod yn fwy poblogaidd."

Ychwanegodd fod rhai tadau yn defnyddio absenoldeb rhiant wedi ei rannu - sydd yn gallu cael ei gymryd mewn nifer o gyfnodau llai, ac ar yr un pryd 芒'r fam - fel rhywbeth ychwanegol i gyfnod tadolaeth.

"Beth sy'n tueddu digwydd yw bod partner yn cymryd yr absenoldeb tadolaeth statudol ac yna pythefnos, pedair wythnos o absenoldeb rhiant wedi ei rannu pan mae'r babi yn cyrraedd gyntaf.

"Yna tuag at ddiwedd y cyfnod tadolaeth fe allai'r partner gymryd cyfnod arall o absenoldeb, ond un sydd ddim yn golygu bod i ffwrdd o'r gwaith yn rhy hir."