Cannoedd o feicwyr modur yn nodi Rhyfel y Falklands
- Cyhoeddwyd
Mae gannoedd o feicwyr modur wedi teithio o Aberhonddu i Gaerdydd er mwyn nodi 35 mlynedd ers Rhyfel y Falklands.
Bwriad gwreiddiol Andrew a Julie Hore, sydd wedi trefnu'r digwyddiad, oedd cael 258 o feicwyr i gario croes o babi yr un gydag enw milwr Prydeinig fu farw yn y gwrthdaro.
Ond ar 么l i s么n am y digwyddiad ledaenu ar y cyfryngau cymdeithasol, cafwyd 600 o bobl yn mynegi diddordeb.
Bydd y rheiny sydd yn cymryd rhan yn rhoi rhodd o 拢5 yr un, fydd yn mynd tuag at fainc goffa a charreg fydd yn cael eu gosod yn y Gerddi Heddwch yn Aberhonddu.
Cafodd seremoni ei chynnal yn y Cynulliad ddydd Mercher i nodi 35 mlynedd ers diwedd y rhyfel, ble bu farw 255 o filwyr Prydain a thri o drigolion y Falklands.
Yn eu plith roedd 48 o filwyr o Gymru. Bu farw 655 o filwyr o'r Ariannin yn y gwrthdaro hefyd.
Dywedodd Mr Hore ei fod eisiau cynnal y digwyddiad gan fod cymaint o feicwyr yn gyn-filwyr yn y rhyfel.
"Roedden ni eisiau cofeb i'r milwyr yn Aberhonddu a gan nad oes un yma roedden ni'n teimlo y dylen ni gael un," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2017
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2017
- Cyhoeddwyd2 Mehefin 2017