Paentio drwy'r boen
- Cyhoeddwyd
Roedd Mared Lenny yn gantores adnabyddus, lwyddiannus a oedd yn canu dan yr enw Swci Boscawen.
Ond saith mlynedd yn 么l cafodd Mared y newyddion ysgytwol bod ganddi ganser ar yr ymennydd, ac yn 么l yr arbenigwyr roedd ganddi 18 mis i fyw.
Wedi cyfnod o addasu ac ailasesu fe wnaeth Mared ailddarganfod ei dawn artistig drwy ei gwaith celf. Mae hi'n dweud wrth Cymru Fyw sut mae celf wedi bod yn gymorth iddi:
Nes i golli'r gallu i wneud cerddoriaeth ar 么l bod drwy driniaeth canser. Yna un dydd fe wnes i ddechrau sgriblo, ac fe drodd fewn i baentio, yna fe drodd hynny fewn i baentio pethe mawr.
Roedd y doctoriaid yn dweud ei fod yn rhywfath o Sudden Savant Syndrome, pan fo'r ymennydd yn cael trawma, ac yna'n overcompensatio drwy wneud pethe fel paentio. Oedd e'n rhywbeth ddoth allan o nunlle - doeddwn i ddim yn paentio o gwbl cyn hynny. Fe wnaeth y paentio achub fy sanity, achos roddodd o rywbeth i mi ffocysu arno.
Doeddwn i ddim yn dangos y lluniau i neb ar y dechrau, ond o'n i'n teimlo bod rhaid i mi drio creu rhywbeth da mas o sefyllfa mor erchyll (y salwch), felly nes i benderfynu 'pam lai?'. Mae'n fwy nag obsesiwn, mae e'n rhywbeth dwi ffili ei reoli, ac yn ei wneud bob dydd.
Pan dwi ddim yn paentio dwi'n gallu teimlo'n isel iawn. Mae yna linc enfawr rhwng iechyd a bod yn greadigol, ac mae'r arbenigwyr yn dweud y dylai bawb drio bod yn greadigol rhywffordd y gallent.
Es i n么l i fyw i Gaerfyrddin wedi cyfnod o fyw yng Nghaerdydd, ac mi wnes i ddod i 'nabod plant o'r uned awtistiaeth, a phlant gyda phroblemau ymddygiad ac o gefndiroedd caled. Fe ddaeth rhai o'r plant yma i weld fy arddangosfa gyntaf i, a bues i'n gweithio gydag athrawes a oedd yn dweud ei fod wedi cael effaith bositif ar y plant.
Cynfas maint bwrdd
Rwy'n credu bod fy nghynfas lleia' i tua maint bwrdd, ac mae well gen i hynny na'r lluniau llai.
Mae lot o batrymau a lliwiau yn fy ngwaith celf i'n dod o'r cyflwr caotic o gael canser yn yr ymennydd. Maent yn dweud bod plant awtistig gyda'r clyfrwch i ymateb i'r patrymau a'r lliwiau yma, felly nes i ddechrau gweithio gyda nhw a gweithio ar waliau yng nghanol Caerfyrddin. Roedden ni'n trio lledu'r syniad fod celf wir yn gallu helpu pobl o ddydd i ddydd.
Mae'r ochr gerddorol o bethau a pherfformio fel Swci wedi mynd, ond dwi weithiau'n chwarae ym mand y g诺r, ond yn y cefndir a dwi ddim yn engagio gyda unrhywun.
Aeth Swci Boscawen i gyd allan drwy'r ffenest pan gefais y salwch. Roedd e'n erchyll ac es i drwy gyfnod o alaru am y peth, cyn penderfynu rhoi fy egni i baentio a dal 'mlaen i fy enaid creadigol.
O'n i'n arfer byw a bod 芒 cherddoriaeth - o'n i'n hollol obsessed, ond mae hynny wedi newid i fy ngwaith celf bellach. Dwi heb astudio celf yn ffurfiol, ond dwi'n mwynhau gwaith artistiaid fel Yayoi Kusama o Siapan sydd yn byw mewn ysbyty seiciatryddol.
Cafodd Kusama arddangosfa yn Llundain ychydig cyn i fi ddechrau dangos fy ngwaith, ac fe wnaeth hi efallai fy ysbrydoli i gyda hynny.
'Cavavan'
Dwi'n gwneud cerflun enfawr ar gyfer G诺yl Tafwyl yng Nghaerdydd eleni, a ges i'r cynnig i wneud y gwaith celf ar gyfer 'Cavavan', sef menter newydd gan Llinos Williams a Ceren Roberts i werthu cava a diodydd eraill, o han garaf谩n! Bydd y Cavavan yn Tafwyl eleni, ac mewn sawl g诺yl arall dros Gymru yr haf 'ma.
I fod yn onest, dwi'n mwynhau paentio unrhywbeth, gan gynnwys byrddau ping pong, esgidiau, dodrefn - felly roedd caraf谩n yn apelio! Y mwyaf yw'r sialens, y mwya' dwi eisiau ei baentio fe.
O ran iechyd fy hunan, dwi'n cyfyngu fy hun i ddau beth mawr y flwyddyn - Tafwyl a'r 'Cavavan' yw hi am eleni. Dwi'n byw efo cyflwr difrifol felly er mod i'n dwli mynd 100 milltir yr awr, yn y gorffennol dwi wedi bod yn gwneud gormod a dwi wedi dysgu o hynny. Y peth diddorol yw pan ti'n troi gwaith lawr, maen nhw eisiau chi mwy!
Aros yn bositif
Dwi'n mynd lan a lawr, ac yn mynd o ddydd i ddydd, er bod hi'n saith mlynedd ers y diagnosis, felly dwi yn teimlo'n ffodus.
Mae'n allweddol bwysig i mi i drio aros yn bositif a thrio osgoi bod yn negyddol o gwbl. Dwi'n trio pasio hynny ymlaen, a dwi wir yn mwynhau trio helpu plant sydd 芒 phroblemau ac anghenion a dwi am barhau i wneud hynny yn y dyfodol.