Brwydro 'mlaen
- Cyhoeddwyd
Roedd Cadfan Roberts yn wyneb cyfarwydd ar y teledu yng Nghymru yn y 90au, gan chwarae rhan Glan Morris yn Pobol y Cwm.
Mae'n ddyn amryddawn sydd wedi dilyn gyrfaoedd amrywiol ers ei ddyddiau'n actio. Ond dros y blynyddoedd diwethaf mae wedi bod yn dioddef 芒 salwch meddwl. Bu'n dweud ei stori ar Bore Cothi ar Radio Cymru ar fore Gwener, 23 Mehefin ac mae'n rhannu ei brofiadau yma gyda Cymru Fyw:
Popeth yn 'blur'
Wedi fy nyddiau yn Pobol y Cwm nes i symud i'r gogledd-orllewin i fyw a gweithio. Roeddwn yn cynhyrchu ac yn ymchwilio i gwmni a oedd yn gwneud rhaglenni teledu - Tipyn o St芒d yn un. Dwi wedi setlo yn yr ardal ac yn byw yng Ngharmel ger Caernarfon efo'n nheulu.
'Nes i benderfynu i ail-hyfforddi a gwneud cyrsiau i lanhau simneiau (chimney sweep). Dyna beth o'n i'n ei wneud pan ges i ddamwain a olygai bod hi'n anodd i mi blygu, felly roedd hyn wrth reswm yn effeithio ar fy ngwaith.
Fe barhaodd fy anlwc pan ges i ddamwain arall wedyn gan dorri fy mawd i ffwrdd tra'n torri coed ar gyfer y t欧, ac doedd ddim modd ei ailgysylltu.
Yna un diwrnod ges i 'fflip' tra allan yn siopa, a hynny oedd dechrau fy nervous breakdown rhyw dair mlynedd yn 么l. Es i weld y meddyg, ac i ddweud y gwir dwi ddim yn cofio dim byd - mae popeth yn blur am fisoedd wedi hynny.
Nes i ddechrau ymwneud efo elusen Mind Ynys M么n a Gwynedd, ac maen nhw wedi bod yn help mawr i mi. Mi es i seminar efo nhw yn adrodd fy hanes i ac roedd hynny yn beth reit anodd i'w wneud - sefyll o flaen bobl a siarad am y peth.
Pan ti'n mynd drwy gyfnod fel hyn ti'n colli pob dim; ti'n colli mynadd a dy hunan-falchder. Ar y pryd o'n i'n gadeirydd llywodraethwyr Ysgol Carmel tra roedd 'na cynlluniau i'w chau, gyda ysgol newydd yn cael ei agor yn Groeslon. Felly mi roedd gen i dipyn ar fy mhl芒t rhwng bob dim.
O'n i'n mynd drwy bob dydd yn gwisgo gwahanol hetiau - cadeirydd corff y llywodraethwyr, y cyngor plwy, rhiant a g诺r. Doeddwn i methu jyst bod yn fi'n hun - doedd Cadfan ddim yna mewn gwirionedd.
Yna roedd digwyddiad torcalonnus pan wnaeth fy ffrind gorau i ladd ei hun. Roedd o yn fy nh欧 i y noson y digwyddodd y peth i roi cerdyn pen-blwydd i Ben, fy mab hynaf. "Welai chi fory," oedd y peth diwethaf ddywedodd o wrthom ni.
O'n i methu delio gyda hynny ac es i drwy gyfnod o feio'n hun am hynny achos 'nes i ddim rhagweld beth oedd o am wneud. Ond 'nath o ddim roi unrhyw hint bod o am wneud hynny - doedd o ddim i lawr nac yn ypset, er oedd o'n dweud "mae bywyd yn crap" - ond mae pawb yn dweud hynny weithiau.
Cefnogaeth
Yn ogystal 芒'r arbenigwyr o Mind, nes i hefyd ddod yn agos i rai o'r bobl eraill oedd yn mynychu'r cyrsiau - mae rhai ohonyn nhw'n ffrindiau da i mi bellach a dwi'n poeni amdanyn nhw'n fawr.
Pan o'n i'n mynd drwy gyfnod o salwch meddwl nes i ddeall pwy oedd fy ffrindiau go iawn. Does 'na ddim llawer o help wedi bod yn y gorffennol i bobl efo salwch meddwl, ac yn sicr mae stigma wedi bod.
Roedd 'na hen agwedd o "pull yourself together" neu "snapia allan o'na fo" - dydi hynna ddim yn digwydd, allai ddweud wrtha chi.
Ond dwi'n meddwl bod 'na help bellach am ei fod o wedi dod mwy i'r amlwg. Wedi hunanladdiad fy ffrind nes i gymhwyster suicide intervention gyda Mind, sy'n golygu mod i'n barod i helpu'r rhai sy'n cyrraedd y fath stad.
Mae plant yn dioddef hefyd, ac dwi'n meddwl bod y pwysau ar blant dyddiau 'ma'n uffernol. Maen nhw'n cael straen yn yr ysgol, peer pressure, rhwydweithiau cymdeithasol, bwlio...
Mae mwy a mwy o bobl yn diodde', a fy neges i ydi: Mae'n oc锚. Mae'n iawn. Dydi o ddim yn beth drwg, allwch chi ddim helpu'r peth, peidiwch 芒 phoeni.
Os 'da chi'n dioddef, ewch at y doctor, gan obeithio y bydd o'n gwrando ac yn gallu eich pasio ymlaen at rywun all gynnig cymorth.
Trawiad
Fis Awst y llynedd ges i drawiad enfawr, gyda 90% blockage yn un o rydwel茂au fy nghalon - doedd yr arbenigwr ddim yn deall sut nes i fyw. Dwi 'di cael stent, ond gyda lwc doedd dim niwed hirdymor i'r galon.
O'n i'n meddwl mod i'n marw yn yr ambiwlans achos doeddwn i methu clywed dim, ac i ddweud y gwir o'n i'n si诺r mod i wedi marw ac yn meddwl mai rhyw electronic impluse oedd yn fy mhen neu mod i'n breuddwydio.
Dwi'n cerdded lot dyddia' 'ma ac yn cymryd lot o dabledi, ac oherwydd y tabledi rhaid mi fod yn ofalus mod i ddim yn torri fy hun gan fod fy ngwaed yn denau. Dwi hefyd wedi stopio smocio, wedi 45 mlynedd o wneud - dwi heb wneud ers y trawiad.
Ond dwi dal yn diodda o'r salwch meddwl, ac mae'n uffernol mynd i'r gwely bob nos gan feddwl 'a fydda i yma yn y bore?' oherwydd nam ar y galon... ac alla i ddim cael gwared o hynny.
Ond dwi yn delio dyddia 'ma, ac mae 'na dechnegau sy'n fy helpu i wneud a'r gobaith ydi y bydda i'n gwella o'r cyflwr.
Dwi'n ystyried fy hun fel cymeriad cryf, a oedd yn ei gwneud hi'n anodd pan ddechreuodd y graig gracio. Mae'n anodd i'r bobl o'ch cwmpas chi hefyd, achos 'da chi'n newid o fod yn rhywun sydd yn helpu pawb arall, i ddweud 'dwi isho help hefyd'.
Mewn ffordd mae'r salwch yn eich troi chi'n hunanol, ond dyna mae'n rhaid gwneud mewn amser fel 'na - meddwl am eich hunain a chanolbwyntio ar wella. Mae'n beth uffernol a dwi'n cydymdeimlo ag unrhywun sy'n mynd drwy gyfnod o salwch meddwl - mae'n gallu bod yn lle tywyll iawn.