Y llefydd rhyfedda'
- Cyhoeddwyd
"Mae 'na lefydd rhyfedda' i gael," medde Dorian Morgan o Gaerdydd. Ac mi ddyle fe wybod. Mae e wedi teithio i bob un prifddinas yn Ewrop, gan brofi diwylliannau a chlywed ieithoedd amrywiol dros y bymtheg mlynedd ddiwetha'.
O Gaerdydd i Warsaw, o Belgrade i Ddulyn, fe aeth Dorian Morgan i 52 o wledydd ar gyfandir Ewrop, cyn ei ben-blwydd yn 40 y llynedd. Cafodd sgwrs gyda Cymru Fyw am y profiad:
R'on i wedi ymweld 芒 nifer o ddinasoedd yn Ewrop pan feddylies i, waeth i fi gario mlaen a 'neud y cyfan ohonyn nhw nawr, a gosod targed i wneud hynny cyn i fi droi'n 40 oed.
Ar wah芒n i Gaerdydd, Llundain a Pharis do'n i heb fod yn y prifddinasoedd eraill tan o'n i'n fy ugeiniau canol. I ddweud y gwir, wrth dyfu lan yn Llambed, bachgen y filltir sgw芒r o'n i. Fe fues i'n Llundain pan o'n i tua saith oed, ac o'n ni 'di bod yng Nghaerdydd ond doedden ni fel teulu ddim yn mynd yn bell iawn ar ein gwyliau.
Pan o'n i'n y brifysgol o'n i'n astudio Cymraeg a Ffrangeg, ac fe ges i gyfle i fyw yn Ffrainc am flwyddyn, ond do'n i ddim eisie mynd, felly wnes i ollwng y pwnc a chario 'mlaen gyda Chymraeg yn unig. Fi'n difaru'r penderfyniad 'na nawr!
Pan o'n i'n 25 oed fe ddechreues i ar fy nhrafyls, ac es i i Warsaw yng Ngwlad Pwyl, yna Rhufain a Prague ac erbyn fy mod i wedi bod i rhyw ddeg dinas, ddechreues i feddwl bydde'n syniad da i gadw i fynd. Ac ar 么l rhyw bwynt, o'dd rhaid cario mlaen er mwyn dweud mod i wedi bod i bob un.
Erbyn 2010, tua 20 dinas o'n i wedi bod iddi, felly roedd gen i saith mlynedd i wneud y 30 dinas arall! Er bod Ewrop yn gyfandir bach o ran maint, mae 'na lot o wledydd felly oedd yn rhaid ymweld 芒 sawl dinas mewn un blwyddyn os o'n i'n mynd i gyflawni'r cyfan. Fe fues i mewn un ar ddeg gwlad yn 2015 a 'sai'n si诺r shwt ffites i'r cwbwl mewn!
Ar goll yn llwyr
Mae'r gwahaniaeth yn y gwledydd yn gallu bod yn fawr, yn enwedig yn y gost. Mae gwledydd fel Gwlad yr I芒, Norwy, Y Swistir yn ddrud ofnadw' a mae talu 拢14 am gin a tonic yn ypseto unrhyw Gardi!
Ond mae'r bobl yn gyfeillgar, ac mae gan bob gwlad eu balchder. Mae sawl un o'r gwledydd wedi wynebu rhyfeloedd yn ddiweddar, a falle byse rhywun yn teimlo ofn i fynd yna, ond mae'r llefydd yma - Bosnia er enghraifft - yn bert iawn hefyd. Mae mynd i'r llefydd 'ma yn dod 芒 hanes yn fyw.
Mae diffyg iaith yn gallu bod yn rhwystr a deall arwyddion yn gallu bod yn broblem, yn enwedig yn rhywle fel Rwsia, Georgia, Albania, lle mae'r iaith yn gwbwl anghyfarwydd. Fel arfer erbyn tua'r trydydd diwrnod mae rhywun yn dod i arfer, ond yn Rwsia ro'n i ar goll yn llwyr!
Gwneud eich gwaith cartre'
Mae'n od nawr i feddwl am y dyddie pan o'n ni'n trefnu gwylie heb y we. Pan ddechreues i ar y daith 'ma, o'n i'n defnyddio llyfre teithio. Mae llyfre dal yn bwysig i fi, ond bryd 'ny oedd pobl ddim yn blogio cymaint, a dim cymaint yn cael ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol chwaith. Mae'r gwaith ymchwil yn hanfodol, dyna sy'n neud y gwahaniaeth rhwng gwylie da, llwyddiannus a gwylie 'run of the mill'.
Allai ddim dweud mod i erioed wedi teimlo peryg mewn unrhyw wlad, er roedd 'na coup yn Nhwrci ddeuddydd ar 么l i fi ddod n么l, ac ar y cyfan mae'r teithiau wedi bod yn ddigon ddi-drafferth, ond pwy 芒 诺yr pa mor hawdd fydd hi i deithio yn Ewrop ar 么l Brexit.
Fe orffennes i fy nhaith i wledydd Ewrop gyda glasied o Champagne yn y Ritz ym Mharis gan gynllunio fy nhaith nesa'.