大象传媒

Ateb y Galw: Alys Williams

  • Cyhoeddwyd
alys

Y gantores Alys Williams sy'n Ateb y Galw yr wythnos hon, wedi iddi gael ei henwebu gan Catrin Mara yr wythnos diwethaf.

Beth ydy dy atgof cyntaf?

Coginio sgons i fy nhad pan o'n i tua tair oed. O'n i'n gwneud nhw bob dydd bron, ac o'n i yn taflu bob dim mewn powlen . Odd o'n gorfod smalio bod o'n licio nhw ac odd o'n rhoi nhw yn ei focs bwyd ar gyfer gwaith. Nath o ddeud tha fi blynyddoedd wedyn bo nhw'n afiach.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Ofnadwy o embarrassing i ddweud, ond Peter Andre. Hefyd Morgan o'dd yn fy nosbarth i yn yr ysgol - dwi dal yn ffrindia' efo fo.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

O'n i allan efo criw o ffrindia, ac rywsut nes i ffeindio'n hun mewn dance-off efo'r hogyn 'ma o'n i'n nabod. Oddo'n fy nghuro i, ac oedd 'na gylch rownd a ni yn gweiddi. O'n i ddim yn meddwl be o'n i'n neud, ond o'n i isho curo fo yn y dawnsio.

Felly 'nes i neidio fyny yn yr awyr a gwneud y splits! Do'n i heb wneud y splits ers oni tua 9 oed, ac o'n i'n gorfod mynd yn syth i'r 'sbyty. Nes i rili brifo a rhwygo cyhur yn fy nghoes, ond nes i ennill y dance off!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Neithiwr. Roedd Rhys Meirion yn ffilmio yma, mi ddaeth y criw draw ata i am bryd o fwyd. 'Nath Rhys ganu Myfanwy i fi, a honno oedd hoff g芒n fy nhaid.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Dwi mor amhendant, yn cymryd oesodd i 'neud penderfyniad. Weithia nai newid be dwi'n wisgo deg o weithiau cyn gig ac dwi'n cal job gwneud penderfyniad ar le i fynd allan am fwyd neu unrhywbeth fel 'na.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Dwi'n meddwl Ynys Llanddwyn. Mae o mor hyfryd yna, golygfeydd arbennig yno a dwi'n mwynhau mynd yno i gerdded.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Mae 'na amryw o nosweithiau mewn gwahanol ffyrdd- a dyma fi'n bod yn amhendant eto. Yn amlwg roedd pan ges i fy efeilliad, oedd hynny'n arbennig iawn. Hefyd nosweithiau efo teulu a ffrindiau, neu rhyw barti plu efo fy ffrindiau goaru i i gyd efo'i gilydd, mae nhw yn arbennig am resymau gwahanol.

Noson arall a oedd yn briliant oedd sesh ges i yn Llundain efo Tom Jones, mae o'n ddyn lyfli ac mi roedd hynny yn lot o hwyl.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yr enwog Tom Jones - "Dyn lyfli ac yn lot o hwyl"

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Siaradus, cariadus ac amhendant.

Beth yw dy hoff lyfr?

Dwi'n meddwl, am resymau nostalgic, 'Un nos ola leuad'. Mae'r nofel hefyd wedi cael ei leoli ym Mhethesda sydd yn agos i'r ardal dwi'n dod.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?

Sister Rosetta Tharpe. Roedd hi'n canu'r blues ac fe 'nath hi ddechrau arddull newydd o chwarae'r git芒r a ddylanwadodd ar fobl fel Chuck Berry. Roedd hi'n ddynes anhygoel ac o flaen ei hamser, a dwi ddim yn meddwl y cafodd hi ddigon o gl么d am beth wnaeth hi gyflawni.

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?

Whiplash, ac o'n i'n meddwl fod o reit dda.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Coginio bwyd i fy nheulu a ffrindiau i gyd ac yna cael parti. Dwi'n hoffi cwcio i lot o bobl- mae hynny'n un o fy hoff bethau i wneud.

Dy hoff albwm?

Mae'n dibynnu ar ba mood dwi ynddo fo ar y pryd, felly bydd rhaid mi roi mwy nag un. Les Indispensables gan Bill Withers, Clandestino gan Manu Chao, a'r albwm Tres Tres Fort gan Staff Benda Bilili.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Alys yn perfformio yng ng诺yl Wales At No.1 yng Nghanolfan y Mileniwm, 1 Mawrth, 2015

Cwrs cyntaf, prif gwrs neu phwdin, a be' fyddai'r dewis?

Eto, ma'n dibynu sut hwyliau sy arnai ar y pryd.

Byswn i'n dweud rhywbeth eitha syml efo madarch a garlleg i ddechrau. Dwi'n hoffi bwyd reit rich felly ella cyri neud bwyd Mecsicanaidd. I bwdin dwi'n meddwl fyswn i'n dewis cheescake fegan dwi'n ei wneud.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Dyn cyffredin am y diwrnod, i weld sut beth ydi o i fod gyda corff ac ymenydd dyn.

Pwy sy'n Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Osian Williams