大象传媒 yn cyhoeddi gwasanaeth newydd Radio Cymru 2
- Cyhoeddwyd
Mae'r 大象传媒 yn bwriadu sefydlu ail orsaf radio genedlaethol yn Gymraeg.
Fe fydd Radio Cymru 2 yn darlledu o 7:00 tan 10:00 bob bore'r wythnos ar radio digidol, teledu digidol a 大象传媒 iPlayer Radio.
Cymysgedd o gerddoriaeth ac adloniant fydd ar y gwasanaeth newydd, tra bydd Radio Cymru yn parhau i ddarlledu'r Post Cyntaf.
Dywedodd golygydd Radio Cymru, Betsan Powys, ei bod yn ddatblygiad "hanesyddol".
'Cynnig dewis'
Daw'r cyhoeddiad ar 么l i'r 大象传媒 arbrofi gyda gorsaf dros dro, Radio Cymru Mwy y llynedd.
Dywedodd Betsan Powys: "Does dim dwywaith fod hwn yn un o'r datblygiadau mwyaf hanesyddol a phwysig yn natblygiad yr orsaf ers ei sefydlu yn 1977.
"Mae gwrandawyr Radio Cymru gyda'r gwrandawyr radio mwya' ffyddlon yng Nghymru ac mae gallu cynnig dewis iddyn nhw ac i wrandawyr newydd yn hynod gyffrous."
Mae t卯m golygyddol Radio Cymru yn bwriadu lansio'r gwasanaeth newydd cyn diwedd y flwyddyn.
Wrth ymateb i'r newyddion dywedodd Carl Morris, llefarydd darlledu Cymdeithas yr Iaith: "Ry'n ni'n croesawu'r newyddion yma - mae'n ddatblygiad addawol iawn gan fod dybryd angen rhagor o gynnwys digidol amrywiol yn y Gymraeg.
"Gall un orsaf ddim bod yn bopeth i bawb, felly gobeithio bydd y gwasanaeth newydd yma yn golygu y bydd rhagor o amrywiaeth."
Radio Wales yn ehangu
Mewn cyhoeddiad arall, fe ddywedodd y 大象传媒 y bydd gorsaf Radio Wales yn ehangu ar FM i gyrraedd 330,000 o bobl ychwanegol.
O ganlyniad bydd yr orsaf yn cyrraedd hyd at 91% o'r boblogaeth ar FM, o'i gymharu 芒 79% ar hyn o bryd.
Gwrandawyr yn y gogledd ddwyrain a'r canolbarth yn benodol fydd yn elwa ar y cynnydd yn argaeledd Radio Wales ar FM.
Bydd yr orsaf yn defnyddio tonfeddi FM sydd yn darlledu 大象传媒 Radio 3.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mehefin 2017
- Cyhoeddwyd19 Medi 2016