大象传媒

Isafswm pris alcohol ar raglen ddeddfu'r llywodaeth

  • Cyhoeddwyd
poteli o alcoholFfynhonnell y llun, PA

Mae adfywio cynllun i osod isafswm pris ar gyfer alcohol yng Nghymru ar raglen ddeddfwriaethu Llywodraeth Cymru.

O dan y cynlluniau, fe fyddai'r isafswm pris ar gyfer alcohol yn cael ei benderfynu gan fformiwla sy'n seiliedig ar ei gryfder a chyfaint, gyda disgwyl y byddai'r gyfraith yn cael ei blismona gan gynghorau lleol.

Ond mae'r gyfraith arfaethedig yn dibynnu ar ganlyniad her yn y Goruchaf Lys yn erbyn cynlluniau tebyg gan Lywodraeth Yr Alban.

Mae'r gyfraith yn un o bump y mae gweinidogion yng Nghaerdydd yn gobeithio cyflwyno fel rhan o'u rhaglen ar gyfer y flwyddyn ganlynol.

'Gwneud dim'

Cafodd cynlluniau i reoleiddio pris alcohol yng Nghymru eu cyflwyno am y tro cyntaf ym mis Gorffennaf 2015, cyn cael eu gohirio oherwydd etholiad y Cynulliad yn 2016 ac yna'r penderfyniad gan farnwyr yn Yr Alban i gyfeirio cynlluniau i'r Goruchaf Lys.

Mae disgwyl y bydd ap锚l y Gymdeithas Wisgi Scotch yn erbyn isafswm pris yn Yr Alban yn cael ei glywed gan y llys uchaf ym Mhrydain fis nesaf.

Mae ymchwil gan Lywodraeth Cymru yn awgrymu y gallai codi isafswm o 50c yr uned arbed bron i 拢900m dros 20 mlynedd drwy gwtogi trosedd ac afiechydon, ac arwain at 50 yn llai o farwolaethau bob blwyddyn.

Ond pan gafodd y cynlluniau eu cyflwyno'n wreiddiol gan y llywodraeth, dywedodd llefarydd ar ran y diwydiant diodydd y byddai'n arwain at gynnydd ym mhrisiau tra'n "gwneud dim" i fynd i'r afael 芒 niwed alcohol.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r llywodraeth eisiau cyflwyno 30 awr yr wythnos o ofal am ddim ar gyfer plant tair a phedair oed

Mae rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru hefyd yn cynnwys cynnig i gael gwared ar ffioedd rhentu, sydd eisoes wedi eu gwahardd yn Yr Alban, tra bod Llywodraeth y DU wedi ymgynghori ar wneud yr un peth yn Lloegr.

Dros y 12 mis nesaf, bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn gobeithio deddfu er mwyn cyflwyno ei chynnig o 30 awr o ofal plant am ddim am 48 wythnos y flwyddyn, i rieni plant sy'n dair i bedair oed.

Bydd chwe chyngor yn arbrofi'r cynllun o fis Medi 2017, cyn ei gyflwyno'n ehangach yn hwyrach.

Mae gweinidogion hefyd yn bwriadu cyflwyno cyfraith ynghylch diwygio llywodraeth leol, ac ymgynghori ar gyflwyno gwaharddiad taro plant yn gyfraith y flwyddyn nesaf.

'Gwlad iach ac egn茂ol'

Wrth siarad cyn cyflwyno'r rhaglen ddeddfwriaethol yn y Senedd ddydd Mawrth, dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones: "Bydd y Biliau rydyn ni'n bwriadu eu cyflwyno yn ystod ail flwyddyn y Cynulliad hwn yn helpu'n hymdrechion i adeiladu Cymru iach ac egn茂ol, ffyniannus a diogel, uchelgeisiol ac sy'n dysgu, unedig a chysylltiedig.

"Yr wythnos ddiwethaf gosododd Llywodraeth y DU ei hamcanion deddfwriaethol yn Araith y Frenhines. Yng nghanol datganiad heb unrhyw uchelgais, roedd y Bil Diddymu a Biliau eraill yn ymwneud 芒 Brexit.

"Fel y dywedais i dro ar 么l tro, rhaid i Lywodraeth y DU barchu'r setliad datganoli. Os na fydd hyn yn digwydd byddwn yn ystyried opsiynau eraill, megis Bil Parhad, i ddiogelu buddiannau Cymru.

"Bydd ymadael 芒'r Undeb Ewropeaidd yn cael effaith sylweddol ar waith Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad Cenedlaethol.

"Byddai'n hynod na茂f meddwl na fydd hefyd yn effeithio ar ein rhaglen ddeddfwriaethol ni ein hunain - ond byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i barhau i symud ymlaen a chyflawni ar ran pobl Cymru."