Argyfwng gwleidyddol y Wyddeleg yng Ngogledd Iwerddon
- Cyhoeddwyd
Mae gwleidyddion Gogledd Iwerddon yn ceisio datrys argyfwng gwleidyddol sydd yn peryglu datganoli yno, a'r Wyddeleg yw testun y trafodaethau brys.
Mae'r DUP yn gwrthwynebu galwad Sinn F茅in i sefydlu Deddf Iaith i'r Wyddeleg a fyddai yn rhoi statws swyddogol i'r iaith yno.
Yn 么l yr Unoliaethwyr fe ddylai unrhyw ddeddfwriaeth newydd gynnwys mesurau i ddiogelu statws tafodiaith Albanaidd Gogledd Iwerddon (Ulst猫r-Scotch).
Os nad oes cytundeb buan bydd yn rhaid i Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon, James Brokenshire, wneud penderfyniad yngl欧n 芒 dyfodol y drefn llywodraethu yno.
Fe allai drosglwyddo grym am gyfnod pellach i Lywodraeth y DU, neu ystyried galw etholiad arall ar gyfer Cynulliad Gogledd Iwerddon.
'Bwydo crocodeil'
Hyd yma mae'r trafodaethau wedi bod yn anodd. Ddydd Mercher fe drefnwyd cyfarfod i drafod yr argyfwng ond doedd y DUP na Sinn F茅in yn bresennol.
Mae Gogledd Iwerddon wedi bod heb lywodraeth ddatganoledig ers bron i chwe mis, pan ddaeth y cytundeb rhwng y Sinn F茅in a'r DUP i lywodraethu ar y cyd i ben yng nghanol anghytuno am gynllun ynni gwyrdd dadleuol.
Mae Sinn F茅in yn mynnu bod addewidion wedi eu gwneud i greu deddfwriaeth i ddiogelu statws y Wyddeleg, ond mae'r DUP am weld deddf "hybrid" sydd yn diogelu eu diwylliant nhw hefyd.
Mae tafodiaith Ulst猫r-Scotch yn fersiwn lleol o'r Saesneg mewn rhannau o Ogledd Iwerddon sydd yn defnyddio geiriau gan bobl sydd o dras Albanaidd.
Mae Sinn F茅in yn dadlau y dylai'r Wyddeleg gael statws swyddogol tebyg i'r Gymraeg yng Nghymru, gan olygu arwyddion cyhoeddus dwyieithog yn ogystal 芒'r hawl i ddefnyddio'r iaith mewn llysoedd ac yn y Cynulliad.
Byddai hefyd yn cryfhau statws y Wyddeleg mewn ysgolion - gan gynnwys yr "hawl i gael addysg Wyddelig".
Dywedodd y DUP na fyddai hynny yn digwydd a dan eu goruchwyliaeth nhw. Yn gynharach eleni dywedodd arweinydd y DUP Arlene Foster na fyddai byth yn cytuno i sefydlu deddf iaith i'r Wyddeleg.
Mewn araith i'w chefnogwyr dywedodd: "Os ydych chi'n bwydo crocodeil fe ddaw e n么l am ragor."