大象传媒

"Ceisio chwalu'r tab诺"

  • Cyhoeddwyd
Mike yn arddangos cynnyrch ei fusnes
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mike yn arddangos cynnyrch ei fusnes

Ar 么l graddio o Brifysgol De Cymru ddwy flynedd yn 么l, i un dyn ifanc, doedd ymgeisio am swyddi llawn amser, 'saff', ddim yn apelio. Dyma Mike Pitman i rannu ei stori gyda Cymru Fyw am redeg busnes gwerthu clytiau mislif (menstrual pads), gyda'i gariad Sarah Callaway...

"Roedd y ddau ohonom eisiau sefydlu busnes gyda phwyslais cryf ar fod yn amgylcheddol gyfeillgar, ac yn gynnyrch 'iach'," meddai'r bachgen 23 oed, sy'n wreiddiol o Lanilltud Fawr ond sydd bellach yn treulio ei amser ym Mhenybont-ar-Ogwr, yn rhedeg ei fusnes ef a'i gariad - House of Callaway.

Dros ddwy flynedd yn 么l, roedd ei gariad, Sarah, newydd ddechrau defnyddio clytiau o ddefnydd adeg ei mislif, ac wedi mynd ati i ddysgu gwneud rhai ei hunan.

"Fe wnes i awgrymu y dylai hi fynd ati i ddechrau busnes yn gwerthu'r clytiau yma, er mwyn galluogi i ferched eraill ddechrau defnyddio rhai defnydd," meddai Mike Pitman.

A dyna ddechrau arni, a chychwyn busnes eu hunain, yn lle cael swyddi llawn amser.

"I ddechrau roedd pobl mewn sioc pan o'n i'n dweud beth o'n i'n ei wneud. Byddai rhai dieithriaid yn dweud pethau dwl, a phethau creulon ar brydiau.

"Roedd rhai hyd yn oed jest ddim yn deall, ac yn pendroni beth ddiawl ro'n ni'n gwneud!"

Fodd bynnag, roedd pobl yn fwy cefnogol unwaith iddyn nhw ddysgu mwy am y busnes, meddai.

"Roedd fy ffrindiau gwrywaidd yn reit niwtral o ran ymateb, gyda nifer yn dymuno lwc i ni. Ac roedd fy ffrindiau benywaidd yn intrigued gan yr holl beth.

"Yn rhyfeddol, doedd llawer iawn ohonyn nhw ddim wedi clywed am ail-ddefnyddio clytiau pan oedd hi'n dod at y mislif."

O ystyried ei fod yn gweithio ar fusnes sy'n canolbwyntio ar lendid benywod, dyw Mike Pitman ddim wedi meddwl ddwywaith. Mae'r torchi llewys a bwrw 'mlaen gyda'r gwaith yn dod yn naturiol iddo.

"Dw i jest ddim wedi meddwl rhyw lawer amdano," meddai Mike Pitman.

"I fi, mae'n fater o eisiau helpu pobl, a gwneud gwahaniaeth mewn rhyw ffordd. Wnaeth e ddim croesi fy meddwl i fy mod i'n ddyn ac yn gwerthu cynnyrch i ferched, tan i bobl ddechrau siarad gyda fi am y peth, a dweud bod e'n rhyfedd!

"Ond mae'r rhan fwyaf o bobl yn meddwl bod cael dyn yn y busnes yn reit braf," meddai.

Dim ond y gorau

Yn debyg iawn i glytiau defnydd i fabanod, mae gan glytiau defnydd i fenywod nifer o rinweddau da.

"Maen nhw'n gyfforddus iawn, am fod y defnydd yn galluogi i'r croen i anadlu," meddai Mike Pitman.

"Heb s么n am y budd amgylcheddol. Mae rhai ffynonellau'n dweud bod menywod yn defnyddio tua 11,000 o eitemau iechydol taflu-i-ffwrdd yn ystod eu bywydau.

"Mae hyn wrth reswm yn cyfrannu'n fawr at nifer y gwastraff yn ein safleoedd tirlenwi ni, a'n cefnforoedd ni."

Mae defnyddio clytiau defnydd yn ffordd arbennig o arbed arian hefyd, am fod modd defnyddio'r un set am sawl blwyddyn, o ofalu amdanynt yn gywir.

"Tu hwnt i hyn, dydyn nhw ddim yn cynnwys unrhyw gemegau a fyddai'n peri niwed. Mae'n stori wahanol gyda'r rhai taflu-i-ffwrdd," meddai Mike Pitman.

"Mae sawl cwsmer wedi dweud eu bod nhw'n teimlo'n well yn eu cyrff eu hunain wrth ddefnyddio clytiau defnydd."

Ond mae'n cyfaddef bod yna dipyn o waith i'w wneud i roi tawelwch meddwl i fenywod, oherwydd mae rhai ohonynt yn amheugar iawn o ddefnyddio clytiau defnydd.

"Ry'n ni'n ceisio rhoi cymaint o bwyslais ar y manteision ag y medrwn ni, a cheisio chwalu'r tab诺 sydd o amgylch y mislif.

Ffynhonnell y llun, Mike Pitman

Dyw rhedeg busnes o'r fath ddim yn f锚l i gyd, meddai Mike Pitman, ac roedd yna gyfnodau ar y dechrau lle'r oedd dieithriaid yn ei alw e a'i gariad yn 'afiach' am werthu cynnyrch o'r fath.

"Ro'n i'n ceisio cymryd pethau'n ysgafn, achos ro'n nhw'n dweud pethau gwirion," meddai Mike.

"Ond ar brydiau, ro'n ni'n teimlo'n isel oherwydd 'ta faint ro'n ni'n ymateb yn 么l, roedden nhw'n dal i ymosod yn eiriol, yn llawn atgasedd a gydag agwedd mor negyddol am fislif a thuag at ddefnyddwyr cynnyrch mislif amgylcheddol cyfeillgar yn gyffredinol."

Roedd gweld pobl yn gwrthod gwrando ac yn mynd allan o'r ffordd i ddweud pethau creulon yn ei ddiflasu.

"Ry'n ni wirioneddol yn golygu'r gorau wrth weithio mor galed ar ein busnes," meddai.

"Ond mae'r negyddol wedi ein gwneud ni'n gryfach, ac erbyn hyn mae'r negeseuon positif yn llifo mewn, sy'n arbennig i weld."

Mae hyn yn gwneud rhedeg busnes yn werth bob eiliad, meddai.

"Dw i wastad wedi eisiau fod yn berchen ar fusnes fy hun, lle mae gen i lais a rheolaeth dros yr hyn dw i'n gwneud.

"Dw i ddim yn difaru mynd ati i sefydlu'r busnes gyda Sarah, achos mae'r ddau ohonom wrth ein boddau!"

Ffynhonnell y llun, Mike Pitman
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cwpl mentrus - Sarah Callaway a Mike Pitman

Y 'gair olaf' i'r fenyw, bob tro!

Mae Mike Pitman yn tueddu i adael y gwaith dylunio a chynllunio i'w gariad ond, o dro i dro, mae'n rhoi help llaw.

"Dw i'n mynd yn aml i'r siopau er mwyn prynu defnydd, neu drafod yr hyn y mae hi wedi eu gweld ar-lein," meddai.

"Ond hi sydd 芒'r gair olaf fel arfer oherwydd mae ganddi farn fwy pendant am liwiau a phatrymau.

"Dw i'n helpu gyda thorri'r defnydd, tra bod Sarah yn gwneud y gwaith gwn茂o. Dw i hefyd yn reit dda am smwddio!"

Defnydd gyda phatrwm eliffantod sy'n gwerthu orau, meddai, a hynny ers y dyddiau cynnar.

"Ry'n ni wastad yn gwneud clytiau eliffantod du a gwyn, er - sa i'n si诺r iawn beth yw'r ap锚l!" meddai.

"Ry'n ni wedi cael eliffantod pinc yn y gorffennol, ac fe wnaeth y rheini hedfan allan hefyd."

Stori: Llinos Dafydd