大象传媒

Ceisio canfod pam nad yw pobl yn pleidleisio

  • Cyhoeddwyd
Wheelchair user visits a polling stationFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

A yw gorsafoedd pleidleisio yn addas i bobl ag anghenion arbennig?

Dyw "miloedd o leisiau" ddim yn cael eu clywed yng Nghymru adeg etholiadau, a ddydd Llun bydd ymgyrch newydd yn canfod pam nad ydynt yn pleidleisio.

Yn Etholiad Cyffredinol 2017 fe gododd nifer y pleidleiswyr i ychydig o dan 69% ond rhwng 1945 a 1992 roedd y nifer yn nes at 80%.

Yn 么l Jess Blair, cyfarwyddwr Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru y nod yw cael "gwared 芒'r rhwystrau sy'n atal pobl rhag pleidleisio."

Mae'r damcaniaethau am y rhesymau dros beidio pleidleisio yn amrywio o faterion yn ymwneud 芒 difaterwch pobol ifanc i resymau ymarferol sy'n wynebu pobl ag anableddau.

"Ry'n mewn oes lle mae newid sylfaenol yn digwydd, a fydd yn effeithio ar bob un person yn y wlad," meddai Ms Blair.

"Roedd 'na gynnydd o dri y cant yn y nifer a aeth i bleidleisio yng Nghymru yn yr etholiad cyffredinol diwethaf o'i gymharu 芒 2015, ac mae adroddiadau yn awgrymu bod nifer y bobl ifanc wedi cynyddu yn sylweddol.

"Ond er y cynnydd hwn mae 'na filoedd yn ein cymdeithas nad yw eu barn am benderfyniadau pwysig yn cael ei glywed ac mae angen i ni wybod pam."

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae myfyrwyr wedi arfer 芒 phrotestio ar y strydoedd ond nid yw gwleidyddiaeth draddodiadol yn apelio cymaint atynt

Yn 么l arolwg YouGov fe bleidleisiodd 57% o rai oed 18-19 yn y DU ym Mehefin a 84% o rai dros 70.

Gwadu mae undeb myfyrwyr y NUS yng Nghymru nad oes gan bobol ifanc ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth.

Meddai Carmen Smith, y dirprwy lywydd: "Mewn gwirionedd ry'n yn poeni yn ddirfawr am y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud gan wleidyddion ac ry'n ni am iddyn nhw wrando arnom. Efallai bod yn rhai i'r system wleidyddol fod yn fwy "deniadol a hygyrch" i bobl ifanc.

Bydd grwpiau sy'n delio ag anabledd hefyd yn rhan o'r arolwg.

Dywedodd Emma Sands, ar ran Sefydliad y Deillion yng Nghymru, bod nifer o bobl ddall neu rhannol ddall yn poeni am ymarferoldeb pleidleisio.

"Mae nifer wedi troi at bleidleisio drwy'r post,"meddai,"ond dyw hynny ddim wastad yn caniat谩u i'r bleidlais fod yn gyfrinachol."

Bydd gan y Cynulliad yng Nghymru y pwerau i redeg ei etholiadau ei hun o 2018 ymlaen. Dyw'r nifer sy'n pleidleisio yn etholiadau'r cynulliad erioed wedi bod yn uwch na 46%.

Fe bleidleisiodd canran uchel o bobl yn y refferendwm ar adael yr Undeb Ewropeaidd yn 2016 - cofnodwyd canran o 72% yng Nghymru a gweddill Prydain a dyma oedd y ganran uchaf ar gyfer etholiad y ganrif hon.