大象传媒

Cwmni trenau i greu 300 o swyddi yng Nghasnewydd

  • Cyhoeddwyd
canolfan ragoriaeth trenauFfynhonnell y llun, Construcciones y Auxiliar de Ferrocarriles (CAF)

Bydd 300 o swyddi yn cael eu creu yng Nghasnewydd wedi i gwmni o Sbaen ddewis safle ar gyrion y ddinas i gynhyrchu cerbydau rheilffordd.

Bwriad Construcciones y Auxiliar de Ferrocarriles (CAF) - gyda help grant gan Lywodraeth Cymru - yw buddsoddi 拢30m er mwyn datblygu canolfan ragoriaeth ym Mharc Busnes Celtaidd y ddinas.

Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones fod y datblygiad "yn ddatganiad mawr o ffydd yn ein diwydiant gweithgynhyrchu".

Ym mhapur newydd Sbaenaidd El Pais, croesawodd y Prif Weinidog Theresa May y cyhoeddiad, gan ddweud ei fod yn parhau'r berthynas fusnes glos rhwng Sbaen a'r DU.

Cafodd dros 100 o leoliadau drwy wledydd y DU eu hystyried gan CAF, ac mae 大象传媒 Cymru'n deall fod Llywodraeth Cymru wedi darparu grant o 拢3m i ddenu'r cwmni i Gasnewydd.

Mae CAF eisoes yn gwerthu cerbydau trenau i'r DU o'i ffatrioedd yn Sbaen, gan gynnwys tramiau ar gyfer system dramiau Caeredin a'r Metro yng nghanolbarth Lloegr.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd y ganolfan yn cael ei hadeiladu ger gwaith dur Llanwern

Bydd y ganolfan newydd yng Nghasnewydd yn cyflogi 200 pan fydd yn agor yn hydref 2018, ac yn cynyddu i 300 erbyn 2019.

Bydd gweithwyr yno'n cynhyrchu amrywiaeth o gerbydau, gan gynnwys cerbydau diesel a thrydan, tramiau a threnau cyflym.

Yn ogystal 芒 systemau Caeredin a chanolbarth Lloegr, mae CAF yn gobeithio ennill rhagor o gytundebau gyda system trenau danddaearol Llundain, a chynllun High Speed 2 ymysg eraill.

'Hwb aruthrol'

Dywedodd Llywodraeth Cymru mai hon fydd y ganolfan gyntaf o'i bath yng Nghymru.

"Mae'r cyhoeddiad heddiw yn bluen fawr yng nghap Cymru", medd Carwyn Jones, "ac yn ddatganiad mawr o ffydd yn ein diwydiant gweithgynhyrchu.

"Unwaith eto, rydym yn cystadlu ag eraill ar lwyfan y byd ac wedi llwyddo gan ddenu buddsoddiad arwyddocaol i Gymru.

"Mae'r buddsoddiad o 拢30m yn hwb aruthrol i'r economi a gobeithio, yn sbardun i dwf ein sector rheilffyrdd gan greu cannoedd o swyddi crefftus a bras."

Dywedodd Richard Garner, Cyfarwyddwr CAF yn y DU: "Bydd hyblygrwydd yn y ffatri'n caniat谩u i ni ymateb i ofynion ein cwsmeriaid cyfredol a chwmniau newydd.

"Mae CAF yn hen law ar gyflenwi'r farchnad Brydeinig ac mae gennym nawr sail economaidd gadarn ar gyfer cynyddu 么l ein troed ymhellach yn y DU.

"Bydd sefydlu'r cyfleuster hwn yn helpu i wireddu dyhead tymor hir CAF i reoli marchnad y DU am flynyddoedd mawr i ddod."