大象传媒

Croesawu gwelliannau rheilffordd rhwng Cymru a Lerpwl

  • Cyhoeddwyd
Halton Curve
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r gwaith yn cael ei wneud ar ran o'r rheilffordd yn Halton, Sir Caer

Mae AC Gorllewin Clwyd wedi croesawu dechrau'r gwaith o wella'r rheilffordd rhwng gogledd-ddwyrain Cymru a Lerpwl.

Mewn prosiect gwerth dros 拢18m, mae'r cledrau a'r signalau ar ran o'r rheilffordd yn Halton, Sir Caer, yn cael eu hadnewyddu.

Mae disgwyl i'r gwaith arwain at drenau uniongyrchol rhwng Wrecsam a Lerpwl yn y diwedd.

Dywedodd Darren Millar y bydd "manteision enfawr" i'r gogledd-ddwyrain.

"Mae Lerpwl yn ganolfan fasnachol bwysig ac fe fydd gwella'r cysylltiadau trafnidiaeth yn hwb enfawr i economi gogledd Cymru o ran swyddi a hyrwyddo twristiaeth", meddai.

Mae llywodraethau Cymru a'r DU, yngh欧d 芒 chonsortiwm o awdurdodau lleol o Gymru, yn cefnogi'r datblygiad.

Y bwriad cychwynnol yw dechrau gwasanaeth bob awr rhwng Lerpwl a Chaer o fis Rhagfyr 2018, cyn ymestyn i Gymru yn ddiweddarach.