大象传媒

Cysegru esgob newydd Llandaf yng Nghadeirlan Aberhonddu

  • Cyhoeddwyd
june osborneFfynhonnell y llun, Yr Eglwys yng Nghymru

Cafodd esgob newydd Llandaf ei chysegru mewn gwasanaeth yng Nghadeirlan Aberhonddu ddydd Sadwrn.

Cafodd June Osborne ei dewis fel Esgob Llandaf ym mis Ebrill gan olynu'r Parchedicaf Ddr Barry Morgan, fu yn y swydd am 14 mlynedd.

Hi fydd 72ain esgob yr esgobaeth, sydd yn gwasanaethu y rhan fwyaf o ardaloedd Caerdydd, Cymoedd De Cymru a Bro Morgannwg, a hynny wedi iddi wasanaethu am 13 mlynedd fel Deon Caersallog.

Cafodd ei dewis yn dilyn cyfnod o ansicrwydd, ar 么l i Goleg Etholiadol yr Eglwys yng Nghymru fethu 芒 dewis olynydd ar y cynnig cyntaf.

Ffynhonnell y llun, Yr Eglwys yng Nghymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yr unig esgob arall i gael ei gysegru yng Nghadeirlan Aberhonddu oedd Clifford Wright yn 1986

Cafodd y cysegriad ei gynnal yng Nghadeirlan Aberhonddu - yr ail waith yn unig i hynny ddigwydd - gan mai Esgob Abertawe ac Aberhonddu, John Davies, yw Uwch Esgob yr Eglwys.

Dywedodd yr Esgob John Davies: "Rwy'n sicr y bydd pawb yn ei chroesawu, ei chefnogi a gwedd茂o drosti wrth iddi ddechrau ar cam newydd hwn yn ei gweinidogaeth."

Ychwanegodd y darpar-Esgob June Osborne: "Mae cael fy ordeinio yn esgob yn yr Eglwys yng Nghymru yn fraint enfawr a hyd yn oed yn fwy felly i fod yn Esgob Llandaf.

"Dim ond mewn cyd-destun neilltuol yr ydym yn cysegru esgobion, ac mae gwybod y byddwn yng Nghadeirlan Aberhonddu yn ymroi fy ngweinidogaeth yn y dyfodol i dir a phobl esgobaeth Llandaf yn gyffrous ac yn ysbrydoli."

Bydd yr Esgob June yn cael ei gorseddu yng Nghadeirlan Llandaf fore Sadwrn nesaf.