大象传媒

Galw am ymrwymiad i drydaneiddio trenau at Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Trenau
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd y trenau diesel-drydanol newydd yn dechrau rhedeg rhwng Llundain ac Abertawe yn yr hydref

Mae ysgrifennydd yr economi eisiau i San Steffan ddarparu trenau trydanol o Gaerdydd i Abertawe, neu roi'r p诺er a'r arian i Lywodraeth Cymru wneud hynny.

Dywedodd Ken Skates ei bod yn bosib na fydd y cynllun yn cael ei wireddu fyth os nad oes ymrwymiad i wneud hynny nawr.

Mae Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns yn dweud y bydd y trenau diesel-drydanol diweddaraf yn dechrau rhedeg i Abertawe yn yr hydref.

Ond mae un arbenigwr trafnidiaeth yn rhybuddio y byddai ailddechrau'r broses o drydaneiddio'r rheilffordd yn gostus pe bai'r cynllun presennol yn dod i ben yng Nghaerdydd, heb ymestyn at Abertawe.

Mae Network Rail yn gweithio i drydaneiddio'r rheilffordd rhwng Llundain a Chaerdydd erbyn 2019, ond yn 么l yr amcangyfrif presennol, ni fyddai'r llwybr i Abertawe yn drydanol nes 2024 ar y cynharaf.

'Yr holl ffordd'

Dywedodd Mr Skates nad yw rheilffyrdd Cymru'n cael eu hariannu'n ddigonol, a tra bod gan Gymru 6% o'r rhwydwaith, dim ond 1.5% o gyfanswm cyllid y rheilffyrdd y mae wedi'i dderbyn yn y cyfnod presennol.

"Heb os mae'n rhaid i ni foderneiddio'r isadeiledd, ac mewn gwirionedd mae Llywodraeth Cymru wedi camu i'r adwy yn ystod y cyfnod yna a buddsoddi rhywbeth fel 拢200m," meddai.

"Rydyn ni'n galw ar Lywodraeth y DU i gadw'r addewidion y mae eisoes wedi'u rhoi i foderneiddio'r rhwydwaith rheilffyrdd, gan gynnwys y brif reilffordd yn ne Cymru.

"Rydyn ni angen moderneiddio yr holl ffordd, nid yn unig i Gaerdydd ond i Abertawe.

"Os nad ydyn ni'n gweld moderneiddio yn cael ei ddarparu nawr, mae'n bosib na welwn ni hynny fyth.

"Os nad ydyn nhw am ei ddarparu, dylen nhw roi'r arian a'r pwerau i ni allu gwneud y gwelliannau sydd eu hangen."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y tu mewn i un o'r trenau newydd fydd yn dechrau rhedeg yn yr hydref

I ddechrau bydd y trenau yn rhedeg ar drydan o Lundain i Swindon, ac yn newid i ddiesel am weddill y daith.

Ni wnaeth Mr Cairns sylw ar y mater o drydaneiddio'r rheilffordd i'r gorllewin o Gaerdydd, ond dywedodd y byddai'r trenau newydd yn fudd i deithwyr o Abertawe yn gynt na'r disgwyl.

"Nawr eu bod wedi trydaneiddio hyd at Swindon, bydd y trenau diweddaraf ar gael yn yr hydref, felly bydd Abertawe yn cael budd o'r trenau newydd yn gynt o lawer," meddai.

Costau ychwanegol?

Ond dywedodd Stuart Cole, athro ar drafnidiaeth ym Mhrifysgol De Cymru, y byddai'n gostus pe bai angen ailddechrau trydaneiddio'r rheilffordd rhwng Caerdydd ac Abertawe, yn hytrach na'i wneud fel rhan o un cynllun di-dor.

"Bydd unrhyw oedi ble fo' angen ailddechrau'r gwaith adeiladau yn gorfod talu costau sefydlu prosiect newydd," meddai.

Dywedodd bod y costau yma wedi eu cynnwys yn amcangyfrif y gost at Gaerdydd, ond os oes oedi, y gallai fod angen mwy o arian na'r disgwyl i ymestyn y trydaneiddio at Abertawe.