大象传媒

Cadarnhau meddyg Cymraeg i weithio yn Nyffryn Nantlle

  • Cyhoeddwyd
dolwenithFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe fydd Meddygfa Dolwenith yn cau ddiwedd mis Gorffennaf, wrth i Dr John Morris Jones ymddeol

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cadarnhau y bydd meddyg teulu yn dod i weithio mewn meddygfa yn Nyffryn Nantlle yn yr hydref.

Daw yn dilyn pryderon gan nifer o bobl leol na fyddai meddyg Cymraeg yn gweithio yn yr ardal yn y dyfodol, a hynny wrth i feddygfa Dolwenith gau ym Mhen-y-groes.

Bydd yr unig feddyg Cymraeg sy'n gweithio yn y dyffryn, Dr John Morris Jones, yn ymddeol ddiwedd y mis, ac felly roedd nifer yn pryderu na fyddai meddyg teulu sy'n medru siarad Cymraeg bellach yn gwasanaethu'r ardal.

Ond mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi ymateb drwy ddweud fod meddyg di-Gymraeg wedi ei benodi i gymryd gofal o gleifion Dr Morris Jones, ac y bydd ganddo gyd-weithiwr fydd yn siarad Cymraeg yn ei gefnogi.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe fydd meddyg teulu Cymraeg yn ymuno 芒 staff Corwen House

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Ar 么l cael gwybod y bydd Dr Morris Jones yn ymddeol, cytunodd y Bwrdd Iechyd ar ddau gynnig, sef hysbysebu'r swydd wag, neu wasgaru rhestr y cleifion ar draws nifer o feddygfeydd lleol.

"Yn dilyn hysbysebu'r swydd, dim ond un cais cafodd ei gyflwyno, a hwnnw gan feddygfa Corwen House, sydd wedi ei leoli tua 200 llath o Feddygfa Dolwenith.

"Yn dilyn cyfweliad gyda'r Pwyllgor Meddygol Lleol a chynrychiolwyr o Goleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol, fe gafodd meddygfa Corwen House ei gymeradwyo fel yr opsiwn gorau.

"O fis Hydref eleni, bydd dau o feddygon teulu cyflogedig, un ohonynt yn siarad Cymraeg, yn ymuno a'r feddygfa, ac yn y cyfamser, bydd y feddygfa yn defnyddio meddygon rhan amser, a bydd rhai ohonynt yn siaradwyr Cymraeg."

Ail feddygfa i gau

Mae Cymru Fyw hefyd ar ddeall fod meddygfa arall ym mhentref Pen-y-groes wedi cau yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a bod nifer helaeth o gleifion y feddygfa honno eisoes wedi ymuno a Meddygfa Corwen House.

Mae'r bwrdd iechyd wedi cadarnhau hefyd y byddant yn gweithio gyda staff Corwen House i wneud gwelliannau i'r adeilad presennol.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r Cynghorydd Craig ab Iago yn dweud bod gan drigolion Pen-y-groes yr "hawl i gael meddyg sy'n siarad ein hiaith"

'Siomedig iawn'

Roedd nifer o bobl leol, gan gynnwys y Cynghorydd Craig ab Iago, yn bryderus iawn am ddyfodol gofal iechyd yr ardal drwy'r Gymraeg, gan fod Dyffryn Nantlle, yn un o ardaloedd Cymreiciaf Cymru.

Dywedodd wrth Cymru Fyw: "Dwi'n siomedig iawn fy mod yn gorfod clywed am y datblygiad yma drwy law'r 大象传媒, pam fod y bwrdd iechyd yn fodlon siarad efo gohebwyr y wasg a ddim efo ni - y bobl?

"Mae angen iddyn nhw ddod yma i siarad efo'r cleifion, efo'r staff, ni sy'n bwysig, a'n dyfodol a'n gofal ni sydd yn y fantol, wrth i bobl boeni am eu hiechyd a staff y feddygfa boeni am eu swyddi.

"Mae angen iddyn nhw ddechrau gweithio efo ni, di'r ffordd mae pethau wedi bod yn digwydd yn ddiweddar ddim yn ffordd iawn o wneud pethau."

Anwybyddu llythyrau Si芒n Gwenllian

Mae'r aelod cynulliad lleol, Si芒n Gwenllian, hefyd wedi mynegi ei rhwystredigaeth gyda'r diffyg cyfathrebu sydd wedi bod gyda'r bwrdd iechyd.

"Mae'n rhyfedd sut mae Betsi Cadwaladr yn fodlon ymateb i ymholiadau'r wasg ond yn dewis anwybyddu fy llythyrau i ers mis Ebrill ar y pwnc yma," meddai.

"Mae'r holl sefyllfa yn Nyffryn Nantlle yn tanlinellu'r argyfwng sydd yn wynebu gwasanaethau iechyd yn y Gogledd.

"Ddoe [Dydd Mawrth], mewn datganiad tila tu hwnt, fe ddywedodd Llywodraeth Cymru na fyddent yn sefydlu ysgol feddygol ym Mangor.

"Sawl meddygfa arall sy'n gorfod cau, sawl locum arall drud sydd angen eu cyflogi cyn i'r Blaid Lafur sylweddoli mai ysgol feddygol ydy'r unig ffordd gynaliadwy o ddatrys yr argyfwng iechyd sy'n ein wynebu ni yng ngogledd Cymru?"