Mwy o drais yng Ngharchar y Parc 'ers gwahardd ysmygu'
- Cyhoeddwyd
Gallai cynnydd yn nifer yr achosion o drais a hunan-niweidio yng Ngharchar y Parc fod yn gysylltiedig 芒 gwaharddiad ar ysmygu, medd adolygiad.
Dywedodd adroddiad fod y gwaharddiad yn y carchar ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi cael ei reoli'n dda a bod rhai carcharorion wedi rhoi'r gorau i'r arfer.
Ond mae'n dweud hefyd bod tybaco yn dal i fynd i mewn i'r carchar ac mae pryder bod dronau'n cael eu defnyddio i wneud hyn.
Er na chafodd dadansoddiad manwl ei gynnal, mae'r bwrdd oedd yn gyfrifol am yr adolygiad yn dweud y gallai'r gwaharddiad ysmygu fod yn ffactor yn y cynnydd mewn trais.
Mae adroddiad 2016-17 gan fwrdd monitro annibynnol y carchar yn dweud fod rhai carcharorion - er gwaethaf gwrthwynebiad i ddechrau - wedi defnyddio'r gwaharddiad yn Ebrill 2016 i fachu ar y cyfle i roi'r gorau i ysmygu, ac yn teimlo'n well o ganlyniad.
Ond mae'r adroddiad yn pryderu bod dronau'n cael eu defnyddio i smyglo tybaco a sylweddau eraill i mewn i'r carchar - weithiau yn syth i ffenestri celloedd carcharorion.
Mae'r ddogfen hefyd yn nodi cynnydd cyffredinol yn nifer yr achosion o drais, a chanran anghymesur o'r rhain yn yr uned troseddwyr ifanc lle bu nifer o ymosodiadau hefyd ar staff y carchar.
Ar y cyfan mae'r adroddiad yn dweud fod Carchar y Parc yn cael ei reoli'n dda, a bod diogelwch y carcharorion "o bwysigrwydd mawr".
Dywedodd hefyd fod y ddarparieth addysg yno'n dda, gyda chysylltiadau 芒 Choleg Pen-y-bont, a bod gweithgareddau pwrpasol i'r carcharorion yn dda ar y cyfan.