大象传媒

UKIP i ymchwilio i sylwadau hiliol Michelle Brown AC

  • Cyhoeddwyd
Michelle Brown
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Michelle Brown yn un o saith AC UKIP gafodd eu hethol i'r Cynulliad yn 2016

Mae UKIP wedi cadarnhau y bydd y blaid yn cynnal ymchwiliad llawn i recordiad o Aelod Cynulliad yn defnyddio term hiliol wrth s么n am Aelod Seneddol.

Cafodd AC rhanbarth Gogledd Cymru, Michelle Brown ei recordio yn dweud sylwadau sarhaus am AS Llafur ar gyfer Streatham, Chuka Umunna, mewn galwad ff么n yn Mai 2016 i Nigel Williams, oedd ar y pryd yn gweithio i Ms Brown fel uwch ymgynghorydd.

Mae Ms Brown wedi ymddiheuro gan ddweud bod ei hiaith yn "anaddas".

Dywedodd cadeirydd UKIP, Paul Oakden nad yw'r blaid yn cymeradwyo "barn bersonol" Ms Brown, ac y byddan nhw hefyd yn cynnal ymchwiliad i Mr Williams am recordio'r sgwrs a'i ryddhau heb ganiat芒d.

Mae Ms Brown, wnaeth alw Mr Umunna yn "goconyt", hefyd wedi cael ei recordio yn defnyddio term sarhaus yn erbyn AS canol Stoke-on-Trent ar y pryd, Tristram Hunt.

Fe gafodd Mr Williams ei ddiswyddo gan Ms Brown yn ddiweddar.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe ddefnyddiodd Michelle Brown iaith hiliol wrth siarad am Aelod Seneddol Llafur, Chuka Umunna

Mewn datganiad dywedodd Ms Brown: "Y pwynt yr oeddwn yn ceisio ei wneud oedd oherwydd ei fraint a'i gyfoeth aruthrol does dim posib i Chuka Umunna ddeall mwy na minnau am y problemau y mae'r person du cyffredin yn wynebu yn y wlad yma, ac rwy'n sefyll yn bendant yn hynny o beth.

"Fodd bynnag rwy'n derbyn bod yr iaith a ddefnyddiais yn y sgwrs breifat yn anaddas ac rwy'n ymddiheuro i unrhyw un os wyf wedi creu loes.

"Cyn belled 芒'r iaith a ddefnyddiais am Mr Hunt, roedd yn sgwrs breifat ac roeddwn yn defnyddio iaith mae ffrindiau a chyd-weithwyr yn ei ddefnyddio wrth sgwrsio gyda'i gilydd."

'Barn bersonol'

Dywedodd cadeirydd UKIP, Paul Oakden mewn datganiad: "Yn amlwg, dyw UKIP ddim yn cymeradwyo'r farn bersonol gafodd ei fynegi gan Michelle Brown yn ystod yr hyn roedd hi'n meddwl oedd sgwrs breifat ar y ff么n dros flwyddyn yn 么l.

"Byddwn yn cynnal ymchwiliad i'r mater yma, a bydd y darganfyddiadau yn cael eu pasio trwy ein pwyllgor gwaith cenedlaethol fel y gallan nhw ystyried unrhyw weithred disgyblu.

"Byddwn hefyd yn ymchwilio os wnaeth aelod a swyddog UKIP recordio sgwrs ff么n preifat gyda Michelle Brown heb iddi wybod ac wedyn ei wasgaru heb ei chaniat芒d, dros flwyddyn ar 么l y digwyddiad."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Paul Oakden y bydd UKIP hefyd yn cynnal ymchwiliad i Nigel Williams am recordio'r sgwrs a'i ryddhau heb ganiat芒d

Nid dyma'r sefyllfa ddadleuol gyntaf i Ms Brown wynebu.

Ym mis Chwefror roedd rhaid iddi wadu ei bod wedi ysmygu "cyffuriau meddal" mewn ystafell westy ym Mae Caerdydd.

Dywedodd llefarydd ar ei rhan bod yr arogl wedi'i achosi gan Ms Brown yn ysmygu "cynnyrch tybaco gydag arogl cryf".