Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Teleri Fielden yn ennill Ysgoloriaeth Llyndy Isaf 2017
Teleri Fielden o bentref Meifod yn Sir Drefaldwyn yw enillydd Ysgoloriaeth Llyndy Isaf ar gyfer 2017.
Dyma'r pumed tro i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ddewis ffermwr ifanc i weithio ar dir yn Nant Gwynant ger Beddgelert.
Cafodd Teleri ei dewis gan banel o Gymdeithas y Clybiau Ffermwyr Ifanc a'r Ymddiredolaeth Genedlaethol, ar 么l iddi amlinellu ei chynlluniau ar gyfer y fferm.
Ym mis Medi, fe fydd hi a'i chi defaid, Roy, yn symud i fwthyn ar y tir, ac yn gyfrifol am 100 o ddefaid ac 诺yn ac ychydig o warthog duon Cymreig.
Goresgyn rhwystrau
"Dwi mor gyffrous," meddai Teleri, sydd wedi dychwelyd adref ar 么l cyfnod yn gweithio ar ffermydd yn Ffrainc.
"Mae 'na gymaint o rwystrau i rywun sydd eisiau ffermio ond sydd ddim mewn sefyllfa i etifeddu fferm, fel fi, felly mae cael y cyfle yma i gymryd y cam nesa' yn y diwydiant yn wych.
"Does dim llawer o dir yn dod ar gael i'w rhentu, ac mae rhentu yn gallu bod yn eithriadol o ddrud. A does dim llawer o swyddi ymarferol ar gael allan yna chwaith."
Ychwanegodd "Flynyddoedd mawr yn 么l, pan o'dd fy nhaid am gychwyn ffermio, mi gafodd e afael ar ddarn o dir ac yna gosod defaid arnyn nhw. 'Di hynny ddim yn bosib dyddie yma.
"Mae angen llawer iawn o arian hefyd ar gyfer peiriannau, stoc, yn ogystal 芒 chostau o ddydd i ddydd."
Dywedodd Teleri ei bod hi wedi derbyn llawer o gefnogaeth gan ffermwyr yn ardal Meifod dros y blynddoedd diwethaf.
"Maen nhw 'di bod mor wych 'efo fi, yn ogystal 芒 chymorth ymarferol yn ystod y tymor wyna, ma nhw 'di fy helpu i ddewis ci, a'i hyfforddi. Mae hynna 'di bod o gymorth enfawr i mi, a dwi mor ddiolchgar am hynny."
Bydd Teleri Fielden yn etifeddu'r fferm oddi wrth James Evans o Faesyfed, a enillodd ysgoloriaeth Llyndy Isaf yn 2016.