大象传媒

Meithrin profiadau newydd

  • Cyhoeddwyd
Llinos, Begw ac Osian ar Ynys Enlli

Pan fydd llawer o blant yn dechrau yn yr ysgol feithrin am y tro cynta' ym mis Medi, mi fydd un merch fach tair oed yn cael profiad tra gwahanol. Fe fydd hi'n treulio chwe mis yng ngwledydd Asia gyda'i rhieni, Llinos ac Osian o Gaerdydd, yn teithio o India i Nepal, Cambodia i Wlad Thai.

Ond nid dyma'r tro cyntaf i'r teulu godi pac a theithio i ben draw'r byd, fel mae Llinos yn ei esbonio wrth Cymru Fyw:

Fe aethon ni 芒 Begw i Vietnam pan oedd hi'n 16 mis oed. Mae'r ddau ohonan ni 'di hoffi teithio erioed, mae o jyst yndda ni, dwi ddim yn licio aros yn llonydd o gwbl, so o'n ni'n benderfynol bydda' cael plant ddim yn stopio hynny. O'n i'n meddwl byddai Begw yn gallu ffitio rownd ein bywyd ni, does 'na ddim rheswm i beidio mynd i deithio.

Fe 'naethon ni fynd 芒 hi am dair wythnos i Vietnam i weld sut fydda fo'n mynd, ac o'dd hi'n hollol fine. Oedd hi'n cael lot o sylw achos ei bod hi mor olau, oedd pobl Vietnam wrth eu boddau. O'n nhw 'di gwirioni efo babis beth bynnag, ac oedd pobl yn dod at y pram a'i chymryd hi allan a jyst isho lluniau. Oedd 'na ugain o blant ysgol yn tynnu llunia' a selfies hefo hi.

Hwnna oedd y peth oedd yn gallu bod yn ychydig o waith calad ar y daith - ond roedd pawb mor lyfli roedd jyst yn ychwanegu at y profiad. Fel arall wnaethon ni ddim stryglo o gwbwl oni bai am ambell stranc!

Mae'r ddau ohonan ni yn reit laid back, a hyd yn hyn mae hi 'di bod yn fabi reit hawdd. Erbyn hyn, mae Begw yn dair, felly bydd hi'n OK ar y tr锚ns a'r bysus. Bydd cael cysgu ar y tr锚n yn India yn antur yn ei hun iddi, bydd hi wrth ei bodd.

Bod yn drefnus

'Dan ni ddim yn gallu backpackio, dewis llefydd random a jyst mynd. 'Dan ni'n gorfod bod bach mwy trefnus so 'dan ni wedi bookio bob man 'dan ni'n aros am y chwe wsos gynta', jyst fel bo' ni'n gwybod bod 'na gynllun. Hefyd 'dan ni'n trio cael llefydd i aros gyda dwy stafell, neu family room, neu bod 'na balconi so pan ma Begs yn mynd i'r gwely, bod gynnon ni rywle i fynd fel bo' ni ddim yn gorfod bod yn dawel o 7 o'r gloch y nos.

Oni bai am drefniadau fel 'na, dwi ddim yn meddwl bod o ddim gwahanol na'n bod ni'n mynd hebddi hi. 'Dan ni'n trio bod mor laid back 芒 phosib, a bydd hi'n ffitio mewn rownd ein syniadau ni.

Profiadau bywyd

'Dan ni'n dal i stryglo efo'r syniad bo' ni'n mynd i gwaith i neud pres i dalu rhywun arall i edrych ar 么l Begw. Mae'r gofal a'r cariad mae hi'n ei gael yn y feithrinfa yn amhrisiadwy, maen nhw'n hollol wych, ond dal ma' rhywbeth ddim cweit yn 'neud synnwyr - bo' ni'n talu rhywun arall i fagu hi.

So cyn bo' ni'n colli'r cyfle (bydd hi'n yr ysgol cyn i ni droi rownd) 'dan ni'n meddwl waeth i ni fynd 芒 hi, cael y profiada' bywyd 'ma efo hi. Byddwn ni'n gyfoethocach ymhob ffordd (heblaw yn ariannol!)

Dwi ddim yn meddwl 'neith hi gofio lot amdano fo, ond dwi'n bendant yn meddwl bydd y profiadau bydd hi'n eu cael yn sicr yn ei siapio hi.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd pobl ifanc Vietnam wedi gwirioni gyda Begw

Ddim bob amser yn hawdd

Mae hi yn toddler, felly wrth gwrs dydy o ddim yn hawdd bob dydd. 'Ti'n gallu peintio darlun tra wahanol ar Instagram, wrth gwrs s'neb yn rhoi'r llunia' o'r tantrums a'r crio fyny! Bydd hynny'n dal i ddigwydd, ond os faswn i'n mynd 芒 hi i Tesco, bysa hynny'n gallu digwydd. Dydy o ddim gwahanol pan 'dan ni'n teithio.

'Dan ni newydd ddod n么l o Ynys Enlli, fuon ni'n aros yno efo criw o ffrindia' am benwythnos ac mewn ffordd odd hwnna'n anoddach na bod i ffwrdd yn teithio. Doedd 'na ddim trydan yna, dim bath na chawod, oedd hi'n 'molchi mewn bwced, doedd 'na ddim wifi na signal ff么n, oedd hwnna'n sialens fwy mewn ffordd.

Yn y gwledydd lle 'dan ni'n mynd yn Asia, mae o'n weddol hawdd - mae pob man dan ni'n mynd wedi hen arfer 芒 thwristiaid. Mae'r bobl yno'n magu plant eu hunain, mae popeth fyddwn ni angan yna. Os dwi'n mynd i'r siop rownd gornal, mi fydd 'na glytiau yna. Ella mod i bach yn na茂f a bydd yn anoddach na 'da ni'n feddwl, ond mi fydd yn antur beth bynnag ddigwyddith.

Mae Begw'n licio cwmni plant eraill, felly yr unig beth dwi'n poeni amdano ydy dwi isho iddi hi gael interaction efo plant eraill. O'n i'n arfer dysgu yng Ngwlad Thai am gyfnod, felly dwi'n gobeithio mynd n么l i'r ysgol yna a 'neud bach o waith dysgu gwirfoddol, a geith Begw ddod efo fi a gweld plant eraill.

Dydy'r barrier iaith ddim yn effeithio plant, ma' nhw'n gallu chwara' mewn unrhyw iaith, a dwi'n gwbod bydd hi'n iawn efo plant o draws y byd.

'Cyfle rhy dda i'w golli'

'Dan ni'n lwcus iawn i gael chwe mis i ffwrdd o'n gwaith. Dwi'n lwcus efo'n swydd yn trefnu Tafwyl, mi fydda i n么l erbyn Tafwyl nesa' felly mae o i gyd yn ffitio i fewn yn berffaith. Dyma'r cyfle ola' cyn i Begw ddechrau ysgol.

Mae o'n gyfle rhy dda i'w golli, r诺an 'di'r amser i'w wneud o.