大象传媒

Cynghorwyr Gwynedd yn cymeradwyo Cynllun Datblygu Lleol

  • Cyhoeddwyd
adeiladu taiFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r Cynllun Datblygu yn nodi bwriad i godi 7,184 o dai newydd dros 15 mlynedd

Mae cynghorwyr Gwynedd wedi pleidleisio o blaid Cynllun Datblygu Lleol allai weld mwy na 7,000 o dai yn cael eu hadeiladu yng Ngwynedd a M么n.

Mae'r cynllun, sydd ar y cyd ag Ynys M么n, yn golygu y gallai hyd at 7,184 o gartrefi newydd gael eu hadeiladu ar draws y ddau awdurdod.

Y Cynllun Datblygu Lleol fydd yn gosod cynsail ar gyfer ystyried ceisiadau cynllunio am y 15 mlynedd nesaf.

Fe wnaeth 30 o gynghorwyr bleidleisio o blaid y cynllun, gyda 30 yn erbyn, a phedwar yn atal eu pleidlais.

Cafodd y cynnig ei basio yn dilyn cefnogaeth gan y cadeirydd, Annwen Daniels.

'Byddwch yn ddewr'

Yn 么l Arweinydd Cyngor Gwynedd, Dyfrig Siencyn, mae angen mwy o dai er mwyn ateb y galw am gartrefi yn y sir.

Ond roedd mudiadau iaith yn dweud y byddai codi cynifer o dai yn golygu lleihad yng nghanran y siaradwyr Cymraeg yn y ddwy sir.

Roedd y cyfarfod yn benllanw ar chwe blynedd o waith paratoi ar y Cynllun Datblygu Lleol, gan osod fframwaith ar gyfer datblygiadau newydd yn y ddwy sir.

  • Yng Ngwynedd mae'n caniat谩u codi hyd at 3,700 o dai newydd;

  • Mae bron i 1,000 eisoes wedi eu codi, gyda chaniat芒d hefyd wedi ei roi ar gyfer 1,500 arall;

  • Rhwng y ddwy sir byddai 1,500 o'r tai newydd yn rhai fforddiadwy;

  • Bydd tai ar gyfer y farchnad leol hefyd yn rhan o'r cynllun.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Dyfrig Siencyn yn dweud y byddai mwy o dai yn ateb y galw lleol yn y sir

Ond fe wnaeth adroddiad gafodd ei gomisiynu gan Gymdeithas yr Iaith, ynghyd 芒 thri mudiad arall, ddod i'r casgliad y byddai'n arwain at ostyngiad o 2% ar gyfartaledd yn nifer y siaradwyr Cymraeg.

Roedd yr ymgyrchwyr iaith wedi cynnal rali ddydd Gwener cyn i gynghorwyr Gwynedd gyfarfod i drafod y mater.

Mae'r cynllun datblygu hefyd wedi cael ei feirniadu , mewn llythyr agored ar drothwy ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol ag Ynys M么n.

Dywedodd y llythyr y byddai codi dros 7,000 o dai yn yr ardal yn "tanseilio'r iaith Gymraeg yn ei chadarnleoedd olaf".

Asesiad effaith

Mewn ymateb ar y pryd dywedodd y cynghorau eu bod wedi cynnal asesiad effaith ar yr iaith Gymraeg, ac mai bwriad y Cynllun Datblygu oedd "hyrwyddo econom茂au lleol iach, [sicrhau] tai digonol ar gyfer trigolion presennol, [a] chefnogi twf cymedrol".

Dywedodd Mr Siencyn fod y cynllun yn ateb y galw lleol am dai newydd, ac nad oedd adroddiad Cymdeithas yr Iaith yn rhoi sylw digonol i symudedd cymdeithasol, a'r hyn all ddigwydd dros gyfnod o 10 i 15 mlynedd.

Wedi'r bleidlais, dywedodd Mr Siencyn: "Mae'r cynllun yr ydan ni fel Cyngor wedi ei gymeradwyo yn seiliedig ar dystiolaeth gynhwysfawr am y materion hynny sydd fwyaf pwysig i bobl leol, sef tai gan gynnwys tai fforddiadwy, gwaith ac iaith.

"Mae'r fframwaith yn gosod cyfres o bolis茂au blaengar a fydd yn sicrhau fod datblygiadau tai yn cyfarch anghenion lleol, yn amddiffyn ein cymunedau ac yn eu galluogi i ffynnu."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Liz Saville Roberts AS yn un o'r rhai sydd wedi galw am adolygu'r system gynllunio

Mewn datganiad ar y cyd dywedodd Aelodau Seneddol Plaid Cymru, Liz Saville Roberts a Hywel Williams, a'r Aelod Cynulliad Si芒n Gwenllian eu bod yn "nodi penderfyniad" y cyngor i gymeradwyo'r cynllun, ac yn "cydnabod yr angen am dai lleol addas sy'n blaenoriaethu anghenion teuluoedd a chymunedau yng Ngwynedd".

"Fodd bynnag, rydym yn siomedig iawn bod y fframwaith cynllunio presennol ar gyfer Cymru, o dan reolaeth Llywodraeth Lafur Cymru wedi arwain at Gynllun Datblygu lleol sydd heb ganiatau'r hyblygrwydd angenrheidiol i fynd i'r afael ag anghenion penodol cymunedau M么n a Gwynedd.

"Mae angen cynnal adolygiad cynhwysfawr o'r system gynllunio; un sy'n greiddiol i roi anghenion cymuedau lleol o flaen gofynion datblygwyr gan gynnwys ystyriaeth gynllunio gadarn ar gyfer yr iaith Gymraeg."

Bydd y Cynllun Datblygu Lleol yn weithredol hyd at 2026 ar 么l cael s锚l bendith cynghorwyr y ddwy sir, ac mae disgwyl i gynghorwyr M么n drafod y cynllun yr wythnos nesaf.