大象传媒

Dyddiadur saer y Gadair

  • Cyhoeddwyd

Eleni, cafodd Cadair yr Eisteddfod ei chynllunio a'i chreu gan y saer coed Rhodri Owen. Agorodd Rhodri ddrws ei weithdy yn Ysbyty Ifan i'r ffotograffydd Geraint Thomas yn ystod y broses hir o greu, a rhannu ei ddyddiadur 芒 Cymru Fyw:

Ffynhonnell y llun, Geraint Thomas / Panorama Cymru

Dwi'n ddigon lwcus i fedru defnyddio coed o'r Ysgwrn i greu'r Gadair. Y bwriad gwreiddiol oedd defnyddio darn o goedyn o'r adeilad cyn iddyn nhw ei adnewyddu, ond mae hyn am weithio'n wych gan fod y coed wedi bod yn tyfu yno yn nyddiau Ellis Humphrey Evans.

Ffynhonnell y llun, Geraint Thomas / Panorama Cymru

Mae'r pad sgetsio efo'r cynllun gwreiddiol wastad efo fi, fel arfer yn gorffwys ar y coed o'r Ysgwrn yn y gweithdy, tra mod i'n gweithio allan yn union sut dwi am wneud hyn!

Ffynhonnell y llun, Geraint Thomas / Panorama Cymru

Llifio'r coesau 么l yn fras i faint, gan gofio bod yr onglau ar y ddwy goes 么l yn gorfod bod yn union yr un fath ar gyfer uno popeth. Digon hawdd os yn ddarnau syth, ddim mor hawdd yn yr achos yma.

Ffynhonnell y llun, Geraint Thomas / Panorama Cymru

Mae 'na lot o gysidro a chwythu gwynt a cherdded n么l ac ymlaen, smocio a rhegi wedi bod wrth i mi drio gweithio fy ffordd o amgylch y cynllun, yn enwedig efo'r camau cynnar. Ond mae gweithio efo t诺ls llaw yn medru helpu efo'r broses meddwl. Heblaw am y 'sgrifen, bydd yr holl Gadair wedi ei chreu 芒 llaw.

Ffynhonnell y llun, Geraint Thomas / Panorama Cymru

Mae'r uno i gyd wedi ei wneud 芒 llaw ac mae'r foment pan mae dau ddarn yn uno'n berffaith am y tro cyntaf yn hanfodol. Yr uniad yma ydi'r darn pwysica', am fod gweddill yr uniadau a'r Gadair gyfan yn cael eu rheoli gan gywirdeb y darn yma.

Ffynhonnell y llun, Geraint Thomas / Panorama Cymru

R诺an fod y cefn at ei gilydd, dwi'n dechrau gweld y goleuni. Ar y pwynt yma mae'r si芒p yn edrych yn fawr ac yn drwsgl ac yn hollol wahanol i sut mae hi am edrych ar y diwedd.

Ffynhonnell y llun, Geraint Thomas / Panorama Cymru

Un diwrnod mi ddysga i sut i gerfio llythrennau ond yn y cyfamser diolch i'r drefn bod llosgwr laser Pontio, Bangor, yn medru llosgi drwy 3mm o onnen yn daclus.

Ffynhonnell y llun, Geraint Thomas / Panorama Cymru

Mae yna lawer moment lle mae bob dim yn dod at ei gilydd yn ystod y gwneuthuriad ond mae'n broses ara' deg ac mae angen amynedd. Yn aml iawn mae unrhyw ddiffyg amynedd yn cael ei guro gan yr awydd i weld y darn terfynol...

Ffynhonnell y llun, Geraint Thomas / Panorama Cymru

Dwi r诺an angen lliwio'r hanner gwaelod yn ddu. Un opsiwn o'n i wedi meddwl amdano oedd llosgi'r pren efo blowtorch. Ond wedyn penderfynu bod hyn ddim wir yn syniad da; ar 么l creu yr holl gadair, mod i'n ei rhoi hi ar d芒n! Does 'na ddim byd wedi ei ludo at ei gilydd ar hyn o bryd, felly dwi'n edrych ymlaen i'w thynnu oddi wrth ei gilydd a'i phaentio efo inc Indiaidd.

Ffynhonnell y llun, Geraint Thomas / Panorama Cymru

Y Gadair orffenedig efo'r inc, cwyr, lledr a phob addurn arall yn ei le.

Ewch i wefan Eisteddfod 大象传媒 Cymru Fyw am yr holl straeon, lluniau a chanlyniadau o Eisteddfod Genedlaethol Ynys M么n 2017 - gan gynnwys llif byw o'r Pafiliwn.

Gallwch wylio seremoni'r Cadeirio am 4.30 brynhawn Gwener 11 Awst er mwyn gweld pwy sydd wedi ennill Cadair hardd Rhodri.