大象传媒

Llacio rheolau ar ddynion hoyw yn rhoi gwaed yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
bag o waedFfynhonnell y llun, SPL

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y byddan nhw'n llacio'r rheolau ar ganiat谩u i ddynion hoyw a deurywiol roi gwaed.

Ar hyn o bryd does gan ddynion ddim hawl i roi gwaed am 12 mis ar 么l cael rhyw 芒 dyn arall, ond bydd y cyfnod hwnnw yn cael ei ostwng i dri mis.

Bydd y newid yn cael ei wneud yn gynnar y flwyddyn nesaf, a hynny yn dilyn cyhoeddiadau tebyg yn Yr Alban a Lloegr.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Cyhoeddus, Rebecca Evans mai'r bwriad oedd "sicrhau bod cynifer o bobl 芒 phosibl yn cael y cyfle i roi gwaed".

'Datblygiadau gwyddonol'

Dywedodd y gweinidog fod y cyhoeddiad ddydd Mercher yn dod yn sgil argymhelliad gan bwyllgor ymgynghorol ar ddiogelwch gwaed, meinweoedd ac organau.

"Rydyn ni yma yng Nghymru a'r DU yn ffodus o gael un o'r cyflenwadau gwaed mwyaf diogel yn y byd," meddai Ms Evans.

"Diolch i'r datblygiadau mewn gwyddoniaeth feddygol, rydyn ni bellach yn deall yn well sut mae heintiau'n cael eu trosglwyddo drwy waed.

"Bydd y newidiadau dwi'n eu cyhoeddi heddiw yn helpu i gadw rhoddwyr gwaed a'r cleifion sy'n derbyn eu gwaed yn ddiogel, gan sicrhau ar yr un pryd bod mwy o bobl yn cael y cyfle i roi gwaed."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Pan oedd haint Aids ar ei waethaf cafodd gwaharddiad llwyr ei gyflwyno ar ddynion hoyw yn rhoi gwaed, ac fe gafodd hynny ei gwtogi i 12 mis yn 2011.

Bydd y cyfnod newydd o dri mis hefyd yn weithredol i weithwyr rhyw, pobl sydd wedi cael rhyw 芒 phartner "risg uchel", a'r rheiny sy'n cael rhyw 芒 phartner sydd wedi bod yn cael rhyw mewn ardal ble mae HIV yn gyffredin.

Cafodd y newid yn Lloegr ei gyhoeddi gan yr Ysgrifennydd Iechyd yn San Steffan, Jeremy Hunt ar 23 Gorffennaf.

Yn sgil hynny cafodd ei feirniadu gan Ms Evans, a ddywedodd nad oedd Llywodraeth y DU wedi rhoi "rhybudd digonol" o'r cyhoeddiad a bod hynny wedi effeithio ar allu Llywodraeth Cymru i weithredu'r polisi.