Rhai o ardaloedd band eang arafaf y DU yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae adroddiad yn dangos bod saith o'r 20 etholaeth seneddol sydd 芒'r cyflymder band eang lawrlwytho arafaf ar draws y DU, yng Nghymru.
Mae'r Gr诺p Seilwaith Prydain yn cael ei gefnogi gan nifer o Aelodau Seneddol Cymreig ac yn cael ei gadeirio gan Grant Shapps AS, ac mae'n cynnwys ASau sy'n ymgyrchu i hyrwyddo gwell isadeiledd ar draws y DU.
Roedd yr adroddiad yn dangos bod Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Sir Drefaldwyn a Cheredigion yn y 10 uchaf o etholaethau seneddol gyda'r cyflymder band eang arafaf.
Mae Llywodraeth Cymru wedi disgrifio'r adroddiad fel un "camarweiniol" gan nad yw'n tynnu sylw at "argaeledd gwasanaethau band eang cyflymach".
Mae hefyd yn dweud fod "cynnydd aruthrol" wedi'i wneud o ran argaeledd band eang cyflym iawn, a gall 647,000 o adeiladau bellach gael mynediad i wasanaethau o'r fath.
Methu derbyn cyflymderau uwch
Mae'r adroddiad gan y Gronfa Loteri Fawr yn dweud efallai fod cymaint 芒 6.7m o gysylltiadau band eang ar draws y DU yn methu 芒 derbyn cyflymderau uwch na 10Mbps.
Mae'n dweud y dylai ystyriaeth gref gael ei roi ar gyfer digolledu cwsmeriaid band eang sy'n derbyn cyflymder annigonol yn awtomatig, ac am fwy o dryloywder yn y ffordd y mae cyflymder band eang yn cael ei gofnodi.
Mae hefyd yn dweud y dylai safonau gael eu cyflwyno er mwyn gwella hygyrchedd a chysylltedd.
Mae'r adroddiad, sy'n defnyddio data Ofcom, yn dangos bod 58.2% o gysylltiadau band eang yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn arafach na 10Mbps.
Mae'r ffigwr yn 58% yn Sir Drefaldwyn, 55.1% yng Ngheredigion a 50.9% yn Nwyfor Meirionnydd.
Etholaethau Cymreig yn y 20 uchaf sydd 芒'r cyflymdra band eang lawrlwytho arafaf (gan ddefnyddio data 2015-16):
5. Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr
6. Sir Drefaldwyn
8. Ceredigion
12. Dwyfor Meirionnydd
13. Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro
14. Brycheiniog a Sir Faesyfed
18. Merthyr Tudfil a Rhymni
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod yr adroddiad yn "cyflwyno darlun camarweiniol o'r sefyllfa".
"Yr hyn nad yw'n tynnu sylw ato yw argaeledd gwasanaethau band eang cyflymach, pe byddai defnyddwyr yn dymuno cael mynediad iddynt," meddai.
"Bu cynnydd aruthrol o ran argaeledd band eang cyflym iawn ar draws y wlad diolch i waith Llywodraeth Cymru. Gall dros 647,000 eiddo nawr gael mynediad iddo yng Nghymru o ganlyniad i raglen Llywodraeth Cymru Superfast Cymru.
"Mae'r adroddiad diweddaraf Ofcom yn dangos fod gan Gymru yr argaeledd uchaf ar gyfer band eang cyflym iawn ymysg y gwledydd datganoledig, yn bennaf diolch i raglen superfast Cymru, gyda dros wyth o bob 10 eiddo gyda mynediad. Mae hyn yn cymharu ag ychydig dros hanner yn 2014.
"Er ein bod yn ymwybodol o gynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyffredinol 10Mbps + (USO), mae Llywodraeth Cymru eisoes yn gweithio tuag at gynnig band eang cyflym dibynadwy i bob eiddo yng Nghymru."