大象传媒

Dyl Mei: Maes B, pot nwdls a bongos am byth!

  • Cyhoeddwyd
dyl mei

Mae'r cynhyrchydd a'r cyflwynydd Dylan 'Dyl Mei' Roberts, wedi bod yn edrych yn 么l ar gyfraniad Maes Ieuenctid y Brifwyl i fywydau pobl ifanc Cymru dros y blynyddoedd.

Yn 1997, cefais wahoddiad i fynd i Maes B am y tro cyntaf, a finna yn dipyn o ddihiryn o Borthmadog, do'n i 'rioed wedi clywed am Maes B o'r blaen, be' oedd y Maes B 'ma? Lle llawn gwenyn? Maes oedd ddim wedi trio ddigon da yn ei TGAU?

Naci dywedodd fy ffrind, gigs Cymraeg yr Eisteddfod ydy Maes B.

O gr锚t, pobol yn chwarae telyn a phiano yn canu Ysbryd y Nos tan ddiwedd amser - dim diolch.

Erbyn y dydd Mercher doedd gan i ddim byd gwell i 'neud, felly lawr 芒 fi i Bala am edrychiad mwy manwl.

Fe newidiodd y pedwar diwrnod nesa' fy mywyd, gen i ddim cof o bwy oedd y bandiau yn chwarae, ond ar 么l holi yn gl锚n ar Twitter, dwi'n gwybod na Gorky's Zygotic Mynci, Anweledig a Mr Annwyl oedd rhai o'r artistiaid, lein-yp gwych, ond nid dyna oedd yn bwysig ar y pryd... be newidiodd yndda i oedd gweld diwylliant Cymraeg modern yn ei anterth a chael cwrdd 芒 Chymry o bob ardal o'r wlad.

Cyn Maes B, doedd y Gymraeg 'mond yn s诺n oedd yn dod allan o 'ngheg, ac yn bendant doedd na ddim cerddoriaeth Cymraeg ar yr Walkman, ond ar 么l y pedwar diwrnod anhygoel 'na yn Bala '97, cefais yr hyder a'r brwdfrydedd i fod isio creu yn y Gymraeg.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Dylan yn meddwl fod Maes B yn borth rhyfeddol i ddangos bod y Gymraeg yn gallu bod yn fodern ac yn chwyldroadol

Pedair blynedd yn ddiweddarach roeddwn mewn band, ac yn chwarae ar y nos Wener.

Roedd Maes B wedi newid ychydig, roedd yr Eisteddfod wedi cymryd rheolaeth dros y nosweithiau yn 么l gan Gymdeithas yr Iaith, ac erbyn hyn wedi rhoi'r trefniadau yn nwylo hyrwyddwr a threfnydd cerddoriaeth Clwb Ifor Bach - Guto Brychan.

Yn fuan iawn, fe aeth y nosweithiau dawns a phrotest, ac yn eu lle daeth dau lwyfan mewn un adeilad, gyda chymysgedd o fandiau arbrofol a phoblogaidd.

Diffiniad oedd prif fand y nos Wener, a ni, Pep le Pew, criw hip hop o Borthmadog oedd erioed wedi chwarae i fwy na tua 100 o bobol.

Y noson honno, fe chwaraeon ni i tua 1,500 - profiad rhyfeddol, ac mi fues i yn ddigon lwcus i gael perfformio ym Maes B am y 12 mlynedd nesa.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Dylan yn aelod o'r gr诺piau hip hop Pep le Pew a Genod Droog

Mae'n anodd disgrifio pwysigrwydd Maes B i artist Cymraeg.

Fel arfer, Maes B ydy'r tro cyntaf i gr诺p brofi system sain a goleuo enfawr, cefn llwyfan proffesiynol, stafell werdd a chynulleidfa fawr, mae'n binacl i lawer o grwpiau.

Ond erbyn hyn, dwi ddigon hen a blin i sylwi mai o bosib, nid y gerddoriaeth ydy'r peth pwysicaf am Maes B.

Trac sain yn unig

Trac sain i noson allan yn unig yw'r gerddoriaeth yn y b么n, gwir bwysigrwydd Maes B ydy'r gyrchfan gymdeithasol i bobol ifanc Cymru, dros y blynyddoedd rhwng caneuon Cowbois Rhos Botwnnog, Meinir Gwilym, Yws Gwynedd a'r Genod Droog mae ffrindiau oes wedi cael eu gwneud, ar 么l diwedd setiau Elin Fflur, Swnami ac Anweledig, mae calonnau wedi eu bachu, eu torri a'u dwyn.

Hyn sy'n aros yn y cof i bobol, yn bell ar 么l tyfu allan o'u cyfnod ym Maes B (sydd yn anffodus i weld yn digwydd yn rhy ifanc) mae'r gwreiddiau dwfn sydd wedi eu lledaenu dal yn dylanwadu ar fywydau pobol.

Erbyn heddiw mae'r Eisteddfod wedi esblygu unwaith eto, gyda'r gigs ar y Maes ei hun yn mynd fwy poblogaidd. Dwi'n teimlo o bosib bod Maes B yn cychwyn colli ei le fel y brif gig i bobol ifanc, ac mae hyn yn un peth dwi'n poeni am i ddweud y gwir.

Roedd Maes B 1997 yn rhyddhad i hogyn 16 o Borthmadog, i fynd ben fy hun a theimlo fel 'mod i'n rhan o rywbeth c诺l ac ifanc. Dwi'n bryderus erbyn heddiw y bysa'r hogyn 16 o Borthmadog ar y maes, yn gwylio bandiau o'r 90au gyda'i rieni.

Rhywbeth neis i 'neud, ond 'dio ddim yn c诺l iawn nadi? A dyna sydd angen cofio am Maes B, am 20 mlynedd mae'n borth ryfeddol i ddangos bod y Gymraeg yn gallu bod yn fodern ac yn chwyldroadol.

Diolch Maes B, am newid trywydd bywyd yr hogyn ifanc 'na o Borthmadog. Pot nwdls a bongos am byth!