大象传媒

Neb yn deilwng o Dlws y Cerddor yn yr Eisteddfod

  • Cyhoeddwyd
Tlws

Daeth beirniaid cystadleuaeth Tlws y Cerddor yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys M么n i'r casgliad nad oedd neb yn deilwng o'r wobr eleni.

Y beirniaid oedd Geraint Cynan, Branwen Gwyn a Philip Harper, a'r dasg oedd cyfansoddi darn i fand pres yn seiliedig ar y thema seryddiaeth s锚r, planedau a/neu'r gofod heb fod yn hwy na saith munud.

Y wobr oedd Tlws y Cerddor a 拢750 ac Ysgoloriaeth gwerth 拢2,000, yn rhoddedig gan Y Gymdeithas Seryddiaeth Frenhinol i hyrwyddo gyrfa'r cyfansoddwr buddugol.

Cafwyd naw ymgais ar gyfer y Fedal, ac wrth draddodi'r feirniadaeth ar lwyfan y Pafiliwn ar ran ei gyd-feriniaid, dywedodd Geraint Cynan: "Roeddem fel beirniaid yn llawn gobaith y byddai'r thema sef 'seryddiaeth - y s锚r, y planedau a'r gofod' yn cynnig cyfleoedd i gyfansoddwyr ysbrydoli a herio ac roeddem yn disgwyl clywed ymatebion dychmygus i'r dasg a osodwyd."

"Cafwyd rhai adegau o fewn darnau lle ymgysylltodd y cyfansoddwyr 芒'u creadigrwydd i greu ymatebion dychmygus i'r dasg.

"Ar brydiau cr毛wyd awyrgylch a gweadau ac arallfydol a oedd yn effeithiol, ac roedd sawl cyffyrddiad o idiomau cerddorol mwy confensiynol sy'n nodweddiadol o sgoriau ffilm gofodol.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dau o'r beirniaid, Branwen Gwyn a Geraint Cynan

Ychwanegodd: "Nid ar chwarae bach y mae rhywun yn mynd ati i gyfansoddi darn i fand pres ac un o'r heriau mwyaf wrth wneud hyn yw'r sgorio.

"Dangosodd ambell gyfansoddwr ymwybyddiaeth dda o sgorio a defnyddiwyd offeryniaeth a oedd yn gweithio'n bwrpasol gan ddarparu'r her a'r diddordeb sy'n ofynnol wrth gyfansoddi ar gyfer amaturiaid.

"Ond, yn anad dim, roedd diffygion cyson o ran technegau cyfansoddi ym mhob un o'r cynigion."

Dywedodd y byddai'n "braf gallu gweld mwy o ymwybyddiaeth o gylch pumawdau a rheolau sylfaenol harmoni" a bod y beirniaid yn "dymuno gweld mwy o reolaeth dros strwythur hirdymor darnau a'r cydbwysedd".

Ychwanegodd bod "angen mireinio datblygiad syniadau thematig a chreadigol".

Dywedodd: "Siom o'r mwyaf i'r tri ohonom yw nodi na chawsom yr un darn a oedd, yn ein barn ni, yn teilyngu cael ei wobrwyo eleni.

"Penderfyniad unfrydol y tri ohonom yw ni chroeswyd y trothwy llwyddiant ac o'r herwydd rydym wedi penderfynu atal y Wobr eleni.

"Ond, rydym yn pwysleisio ni ddylid defnyddio'r canlyniad hwn fel pastwn i danbrisio pwysigrwydd y gystadleuaeth.

Cred y tri ohonom yw mai blip yw hwn - un flwyddyn lle, am ryw reswm ni ysbrydolwyd yr ymgeiswyr a phrysurwn bydd y gystadleuaeth yn mynd o nerth i nerth yn y blynyddoedd sy'n dod."

Disgrifiad,

Tlws y Cerddor