大象传媒

拢50m yn fwy i ostwng amseroedd aros GIG

  • Cyhoeddwyd
NHS wardFfynhonnell y llun, PA

Mae Llywodraeth Cymru yn mynd i roi 拢50m yn ychwanegol i'r Gwasnaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru er mwyn gostwng amseroedd aros.

Mae'r arian a fydd yn dod o gronfeydd wrth gefn y llywodraeth wedi'i anelu ar gyfer gostwng amseroedd aros ar gyfer triniaethau cyn llawdriniaeth, diagnosteg a therap茂au arbenigol.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething y bydd yr arian yn helpu'r GIG i ddelio gyda'r galw cynyddol am y gwasanaeth.

Ond yn 么l Angela Burns o'r Ceidwadwyr Cymreig mae angen cynllunio gwell.

Dywedodd Mr Gething: "Mae'r galw am wasanaethau'r GIG yng Nghymru, ac yng ngwledydd eraill y DU, yn parhau i dyfu.

"Mae hyn yn rhoi pwysau ychwanegol ar y GIG i ddarparu gofal amserol i gleifion."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd yr arian ychwanegol yn helpu gyda'r cynnydd mewn galw medd Yr Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething

Mae'r 拢50m sydd ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol yn 0.68% o'r 拢7.3bn sydd wedi cael ei neilltuo gan Lywodraeth Cymru ar gyfer iechyd, lles a chwaraeon.

Ychwanegodd yr Ysgrifennydd Iechyd: "Er fy mod yn disgwyl i fyrddau iechyd gynllunio a darparu gwasanaethau cynaliadwy sy'n bodloni anghenion eu poblogaeth leol, bydd y buddsoddiad o 拢50m dwi'n ei gyhoeddi heddiw yn helpu GIG Cymru i ymdopi 芒'r galwadau ychwanegol drwy leihau amseroedd aros ymhellach mewn meysydd allweddol, megis llawdriniaeth ddewisol, diagnosteg a therap茂au."

Dywed Llywodraeth Cymru bod yr atgyfeiriadau i wasanaethau mewn ysbytai wedi cynyddu o oddeutu 20% rhwng 2013 a 2016 - o 1.07 miliwn yn y 12 mis a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2013 i 1.27 miliwn yn y 12 mis a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2016.

Roedd nifer y bobl a oedd yn aros dros wyth wythnos am wasanaethau triniaeth diagnostig yn 7,252 ym Mai - lawr 24,952 ers Mai 2014.

Ond ym Mai 2010 roedd y ffigwr yn 2,588 ac yn sylweddol is.

Roedd nifer y rhai a oedd yn aros dros 36 wythnos rhwng cael eu cyfeirio gan y meddyg a thriniaeth yn 12,354 ym Mawrth 2017. Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod y nifer yn is na'r nifer yn Awst 2015 - roedd y nifer bryd hynny yn 28,654.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Angela Burns yn dweud bod yr aros mae cleifion yn gorfod ei wneud yn greulon

Dywedodd Angela Burns, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr yng Nghymru, bod y dioddef mae cleifion sy'n aros am driniaeth yn gorfod ei wynebu yn greulon.

Er yn croesawu arian ychwanegol dywedodd bod y "mater yn fwy nag arian".

"Rhaid cynllunio yr adnoddau presennol yn well a chwtogi ar wastraff."

Galwodd Ms Burns hefyd ar y llywodraeth i beidio "oedi cyn dod a strategaeth arloesol a fyddai'n elwa o wybodaeth gwyddonol a chyrff o arbenigwyr er mwyn delio gyda'r materion parhaol sy'n llethu'r gwasanaeth iechyd".